Ar hyn o bryd mae system wresogi’r ardal i lawr oherwydd gollyngiad.
Mae hyn yn effeithio ar nifer o adeiladau ar Gampws Parc Singleton:
- Wallace
- Margam
- Glyndŵr
- Vivian
- Gwyddor Data
- Grove
- Preseli
- Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Rydym am sicrhau ein bod yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr i fynd i’r afael â’r mater a sicrhau bod y gwres yn cael ei adfer yn y mannau yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a achoswyd ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth barhaus.
Ystadau a Gwasanaethau Campws
——————————–
Diweddariad Gwresogi – Campws Parc Singleton 06/01/25
Mae ein timau yn parhau i weithio i adfer y gwresogi ar Gampws Parc Singleton yn dilyn gollyngiad ar y system wresogi ardal.
Mae’r gwresogi bellach wedi’i adfer i’r rhan fwyaf o’r adeiladau. Fodd bynnag, mae’r adeiladau Gwyddor Data a’r Sefydliad Gwyddor Bywyd 2 yn parhau heb wresogi ar hyn o bryd. Mae’r diweddariad hwn yn dilyn y neges a anfonwyd ddoe yn nodi bod y system wresogi ardal i lawr oherwydd gollyngiad.
Wrth i’r gwaith atgyweirio barhau, gall fod tarfu achlysurol a thymor byr ar y gwresogi mewn adeiladau eraill. Mae hyn o ganlyniad i ostyngiadau dros dro ym mhwysedd y system wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Hoffem eich sicrhau ein bod yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr i ddatrys y broblem ac i adfer y gwasanaeth llawn cyn gynted â phosibl.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, a diolchwn i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Ystadau a Gwasanaethau Campws