Datblygu sgiliau fel archwilydd ynni cartref myfyrwyr – ymuna â SOS UK ar gyfer hyfforddiant ar-lein ar 19 Chwefror, cyflwyna gais drwy’r ddolen yn ein bio ac mae mwy o wybodaeth isod.

Yn rhentu’n breifat tra dy fod yn y brifysgol? Dysga sut i gynnal archwiliad ynni cartref myfyrwyr gyda hyfforddiant gan SOS UK a rhoi dy sgiliau newydd ar waith drwy gynnal dy archwiliadau dy hun. Does dim angen profiad! Derbynia £15 am bob archwiliad a gwblhawyd. Cymera ran mewn hyfforddiant ar-lein ar 19 Chwefror 3-6pm.

Mae’n gyfle gwych i ennill sgiliau cyflogadwyedd mewn cynaliadwyedd a gwneud newid go iawn mewn tai myfyrwyr!