Mae’r Cronfeydd Caledi pellach ar agor
Rhaid cyflwyno cais o leiaf 5 wythnos cyn dyddiad gorffen eich cwrs. Caiff pob cais ei asesu yng nghyd-destun y ffaith bod yr ymgeisydd yn nesáu at ddyddiad gorffen ei gwrs. Os ydy’ch dyddiad gorffen wedi ei estyn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn cyn i ni allu parhau i asesu eich cais.
Sylwch NAD yw dyfarniadau o’r gronfa wedi’u gwarantu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk
Ddim yn siŵr a allwch chi wneud cais? Gweler ein canllawiau cyflym isod:
I fod yn gymwys, rhaid eich bod:–
-Wedi cofrestru ar gwrs amser llawn neu ran-amser (ni all myfyrwyr allanol gyflwyno cais).
-Cael mynediad at yr holl gyllid y mae’r myfyriwr yn gymwys amdano
– Yn fyfyriwr cartref neu’n fyfyriwr o’r UE â statws ffioedd cartref
Gall myfyrwyr cymwys o’r DU neu’r UE sydd wedi gohirio eu hastudiaethau wneud cais i’r gronfa galedi ar yr amod’ iddynt fod yn gofrestredig yn y flwyddyn academaidd bresennol cyn gohirio eu hastudiaethau
Ewch i wefan y Tîm Cyngor Arian am ragor o wybodaeth
Mae’r Gronfa Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnig dyfarniadau na ellir eu had-dalu i fyfyrwyr rhyngwladol sydd angen cymorth ariannol ychwanegol oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eich bod wedi gwneud darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer eich ffioedd a’ch costau byw cyn dechrau eich cwrs.
Mae maint cyfyngedig y gronfa yn golygu nad yw myfyrwyr yn debygol o dderbyn mwy na £1,500.00. Byddwch yn ymwybodol mai dyfarniad uchaf yw hwn, ac nid yw’n cael ei warantu.
- Bwriad y gronfa yw cefnogi costau byw tymor byr yn unig.
- Nid yw’r gronfa ar gael fel bwrsariaeth, ysgoloriaeth, na chyflog.
- Mae’n annhebygol y bydd ceisiadau yn cael eu hystyried pan fo’r rheswm dros wneud cais i’r gronfa oherwydd amrywiadau mewn cyfraddau cyfnewid.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’w wefan (Saesneg yn unig)