Mae Prifysgol Abertawe’n falch mai ni yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn Nghynllun 2GoCup. Mae Cynllun 2GoCup yn fenter arloesol sydd â’r nod o leihau deunydd pecynnu untro mewn caffis, bwytai a lleoliadau lletygarwch ledled y DU. Mae’r fenter hon sydd wedi’i chefnogi gan gontractwr arlwyo Prifysgol Abertawe, Chartwells, yn golygu y bydd cwsmeriaid yn talu blaendal bach o £2 am gwpan amldro cryf y gellir ei ddychwelyd i fannau arlwyo Harbwr (Campws Singleton) neu’r Guddfan (Campws y Bae) am ad-daliad neu ei gyfnewid am gwpan glân.
Mae’r fenter hon yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe ac Ardal Gwella Busnes Abertawe (BID) ac mae Prifysgol Abertawe’n falch o lansio’r fenter ochr yn ochr ag amrywiaeth o fusnesau yn Abertawe gan gynnwys Little Man Coffee yn Founders &Co, First Call Coffee, The Cwtch, The Anchor, Café Ark, Hello Asia a The Kardomah, a bydd mwy o fusnesau’n cael eu cyhoeddi’n fuan.
Mae Cynllun 2GoCup yn atgyfnerthu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd, gan gyd-fynd â Strategaeth Argyfwng Hinsawdd y Brifysgol a’i rôl wrth ysgogi datblygiad cynaliadwy. Mae hefyd yn adlewyrchu cyflawniad y Brifysgol wrth gyrraedd yr 21ain safle yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet, a dyhead y Brifysgol i gyflawni achrediad lefel 3 y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â’r cynllun, bydd Chartwells yn gosod peiriannau Instarinse. Bydd y peiriannau hyn yn cyd-fynd yn dda â chynllun 2GoCup oherwydd eu bod yn golchi’r cwpanau’n gyflym ac mewn ffordd lân gydag ager tymheredd uchel, sy’n dileu unrhyw rwystrau i’w hailddefnyddio.
Dywedodd Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, Teifion Maddocks, “Rydyn ni’n falch o gymryd rhan yng Nghynllun 2GoCup, gan leihau gwastraff untro ar draws ein campysau a diogelu’r amgylchedd. Dylai’r cynllun blaendal a dychwelyd ymarferol a fforddiadwy hwn olygu y bydd llai o sbwriel ar ein strydoedd a mwy o arian yn ein pocedi. Mae cwpanau coffi tafladwy yn anodd iawn i’w hailgylchu ac maen nhw’n aml yn cynnwys plastigau sy’n dal i fodoli yn yr amgylchedd pan na fyddant yn cael eu rheoli’n ofalus.
Mae’r cynllun yn cefnogi nodau’r Brifysgol a’r llywodraeth i fynd gam ymhellach nag ailgylchu yn unig, a chefnogi cylcholrwydd ein cadwyni cyflenwi, gan sicrhau bod adnoddau a deunyddiau’n cael eu defnyddio am y cyfnod hiraf posib er mwyn osgoi gwastraff a chreu gwerth”.
Dywedodd Cyfarwyddwr Contractau Chartwells, Lisa Scattergood, “Rydyn ni’n falch o alluogi staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol”.