Archwiliwch y Prif Heriau sy’n Rhwystro Pŵer Ymasiad Heddiw

Galwad i bob myfyriwr prifysgol sydd â diddordeb mewn adeiladu byd mwy cynaliadwy drwy arloesi mewn ynni glân (Ffiseg, Peirianneg, Cyfrifiadureg, AI, Roboteg).

Os ydych chi’n chwilfrydig am ymasiad, yn cael eich swyno gan beirianneg eithafol, neu’n pendroni i ble gall eich gradd eich arwain, mae Cyfres Gweminarau FOSTER UKAEA yn gyfle i chi blymio i’r wyddoniaeth a’r dechnoleg sy’n siapio dyfodol ynni glân.

Drwy saith gweminar wythnosol, bydd arbenigwyr UKAEA yn dadansoddi’r heriau mwyaf ar y daith tuag at ymasiad masnachol—o ffiseg plasmas hynod boeth i roboteg, AI, a thrin tanwydd. Gallwch ymuno â’r gyfres gyfan neu ddewis sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau; mae’n gwbl hyblyg.

Mae pob sesiwn yn para 45 munud ac yn cael ei chyflwyno yn fyw gan arbenigwyr UKAEA, a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.