Wyddet ti dy fod yn gallu cael tanysgrifiad i Bloomberg.com am ddim gan ddefnyddio dy gyfrif Prifysgol?
Mae Bloomberg.com yn cynnig mynediad at filoedd o straeon dyddiol ar draws meysydd busnes, cyllid, marchnadoedd, gwleidyddiaeth, technoleg, a mwy. Gyda’r tanysgrifiad am ddim hwn, bydd gennyt fynediad diderfyn at:
- Ffrydio sioeau a chylchlythyrau
- Cylchgronau megis BusinessWeek a Markets Magazine
- Sesiynau holi ac ateb byw
- Offer ariannol megis y Watchlist
Os hoffet ddysgu mwy, bydd gan gynrychiolwyr Bloomberg stondinau ar y ddau gampws. Gelli di ddod o hyd iddynt yn:
– Mynedfa Llyfrgell Parc Singleton – dydd Mercher 11 Chwefror, 10am-2pm.
– Atriwm yr Ysgol Reolaeth – dydd Iau 12 Chwefror 10am-4pm.
Cer i siarad â nhw i ddarganfod sut gelli di wneud y mwyaf o’r gwasanaeth hwn a’i deilwra i dy ddiddordebau a dy uchelgeisiau gyrfa.