/ 3 pheth da ym myd natur

3 pheth da ym myd natur

30th Hydref 2024 to 27th Tachwedd 2024
2:00 pm

Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP (United Kingdom)

2pm (bob brynhawn Mercher, gan ddechrau ar 30 Hydref). Cwrdd y tu allan i Dŷ Fulton

 

  • Dydd Mercher 30 Hydref
  • Dydd Mercher 6 Tachwedd  
  •  Dydd Mercher 13 Tachwedd  
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd  
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd  

 

Dengys ymchwil y gall sylwi ar bethau da ym myd natur wella eich lles.

 

Ymunwch â Llesiant@BywydCampws ar brynhawn Mercher (gan ddechrau ar 30 Hydref) am daith gerdded fer a rhoi cynnig ar yr ymarfer lles “3 pheth da”.

 

Mae bod yng nghanol byd natur yn lleihau dicter, ofn a straen ac yn cynyddu teimladau pleserus. Mae bod yng nghanol byd natur yn gwneud i chi deimlo’n well yn emosiynol, mae’n cyfrannu at eich llesiant corfforol, yn lleihau pwysau gwaed, cyfradd curiad y galon, tensiwn yn y cyhyrau a chynhyrchu’r hormonau straen.

 

Dyma’r gweithgaredd perffaith i wella eich lles yn ystod cyfnodau prysur o astudio a gwaith cwrs.

 

Cynhelir y digwyddiad yn yr awyr agored, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer y tywydd.