Bydd Arddangosfa Finding Ivy yn ymweld â Llyfrgell Parc Singleton lle byddwch yn gallu archwilio bywydau’r dioddefwyr a anwyd ym Mhrydain a gafodd eu llofruddio gan y Natsïaid yn ystod eu rhyfel yn erbyn pobl anabl.
Mae Finding Ivy – A Life Worthy of Life yn arddangosfa deithiol ac yn brosiect ymchwil rhyngwladol sy’n archwilio bywydau’r dioddefwyr a anwyd ym Mhrydain a gafodd eu llofruddio gan y Natsïaid yn ystod eu rhyfel yn erbyn pobl anabl. Gwnaeth rhaglen Aktion T4 a arweiniwyd gan y wladwriaeth gyflawni llofruddiaethau systematig 70,000 o oedolion a chanddynt anableddau meddyliol a chorfforol a oedd yn byw ledled yr Almaen ac Awstria.
Mae’r arddangosfa’n ail-greu ac yn archwilio bywydau ystyrlon yr unigolion hynny a anwyd ym Mhrydain a gafodd eu llofruddio rhwng 1940 a 1941. Dewch i ddarganfod amrywiaeth o ddeunyddiau archifol, adroddiadau, cofnodion gan aelodau teuluoedd a bywgraffiadau’r dioddefwyr.
Mae Prifysgol Abertawe’n falch o fod yn arwain y ffordd ym maes hanes ymchwil i anabledd, ac addysgu drwy’r radd Nyrsio Anableddau Dysgu a sefydlwyd yn ddiweddar. Mae’n anrhydedd mai ni yw’r unig safle yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa hon, sy’n dangos ein hymrwymiad, ein cynnydd a’r camau datblygu rydym yn eu cymryd yn y maes pwysig hwn o ymchwil ac addysgu.
Bydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Parc Singleton o ddydd Mawrth 18 Chwefror tan ddydd Iau 10 Ebrill.
Mae rhagor o wybodaeth a deunydd darllen cefndirol am brosiect ymchwil Finding Ivy ar gael.