Os oes gennych symptomau’r menopos, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y menopos, galwch heibio i’n Caffi Menopos ddydd Mercher 21 Mai rhwng 1pm a 3pm.
Cynhelir y caffi, sydd ar agor i staff a myfyrwyr, ar drydydd dydd Mercher pob mis, wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy Zoom. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw os ydych yn dod i’r digwyddiad.
Y mis hwn fe’i cynhelir yn Ystafell 221 Y Coleg, Campws y Bae a bydd yn darparu amgylchedd diogel i siarad am y menopos, sy’n effeithio ar gynifer o fenywod a’u teuluoedd. Mae hefyd yn gyfle i reolwyr llinell wella eu gwybodaeth yn y maes hwn fel y gallant gefnogi aelodau eu timau.
Bydd pob Caffi yn dechrau â sgwrs fer am bwnc penodol sy’n ymwneud â’r menopos ac yna bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod o fewn y grŵp.
Ar gyfer y sesiwn hon, bydd Dr Karpagam Krishnamoorthy sy’n gweithio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, yn bwriadu edrych ar effaith ymarfer corff ar y corff dynol yn ystod ymarfer corff.
Mae Dr Karpagam Krishnamoorthy, a elwir yn boblogaidd gan ei myfyrwyr yn “Dr K”, yn Anatomydd brwdfrydig. Deintyddiaeth yw ei chefndir, ac, oherwydd ei chariad at addysgu, bu’n astudio gradd Meistr a PhD mewn Anatomeg Feddygol (India). Bu’n ddarlithydd mewn amryw o sefydliadau yn India ac mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda’i thîm yn Ysgol Feddygaeth Abertawe.
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cymorth llawn a chadarnhaol ar gyfer y menopos ac mae’n ymroddedig i greu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio ac yn astudio yma.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.