Ydych chi’n ymuno â ni yng Nghaerdydd ar gyfer Varsity Cymru eleni? Peidiwch ag anghofio, bydd angen i chi gasglu eich tocyn! Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod:
Gwybodaeth Casglu Tocynnau Varsity
Dydd Mercher 2il Ebrill
10am – 6pm
Cove, Campws Singleton
Beth fyddwch chi’n ei gasglu:
- Tocyn trên i Gaerdydd
- Crys-T Varsity Cymru
- Band arddwrn Varsity Cymru
- Tocyn rygbi
Methu dod? Peidiwch â phoeni – gall ffrind gasglu eich tocyn ar eich rhan, ond bydd angen iddynt eich cod QR a’ch maint crys-T dewisol.
Sicrhewch fod gennych eich cod QR a’ch ID gyda chi. Bydd angen i chi gasglu eich tocyn gyda’r bobl rydych chi eisiau eistedd gyda nhw yn y stadiwm!