Dyma’ch cyfle i siarad â llawer o’n Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau am sut y gallwch chi gymryd rhan a sicrhau bod eich profiad Prifysgol yn un i’w cofio!
Rydyn ni’n gwybod fod ReFreshers yn ymwneud a gwneud ffrindiau, nosweithiau allan gwych, bargeinion, setlo yn eich cartref Newydd ac wrth gwrs, PETHAU AM DDIM! Dyna pam rydyn ni wedi ymuno a’n holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau ynghyd a busnesau lleol a chenedlaethol i ddarparu bargeinion, nwyddau am ddim a samplau i chi.
Rydym am i chi flasu ychydig o beth sydd gan Abertawe i’w cynnig.