Mae’r grŵp hwn yn cwrdd i gefnogi myfyrwyr sy’n mynd drwy brofedigaeth o unrhyw fath. Efallai eich bod wedi colli ffrind neu aelod o’r teulu yn ddiweddar, neu beth amser yn ôl hyd yn oed. Beth bynnag yw amgylchiadau eich colled, mae’n bosib y gall y grŵp eich helpu.
Mae cyfarfodydd y grŵp yn para awr ac maent yn gyfle i rannu ag eraill a allai fod â theimladau a phrofiadau tebyg i’ch rhai chi. Rydym yn cydnabod bod galaru’n wahanol i bawb, ond mae’n dda gwybod nad ydych ar eich pen eich hun.