I ddathlu lansiad Arolwg Mawr Abertawe eleni, rydym yn dod â Gŵyl Adborth MyUni yn ôl!
Dere draw i Creu Taliesin ddydd Llun 3 Chwefror ar Campws Singleton, neu’r Guddfan ddydd Mawrth 4 Chwefror ar Campws Y Bae i fwynhau bwyd blasus am ddim, hwyl, gemau, crefftau, cerddoriaeth a llawer mwy.
Y cyfan a ofynnwn yw dy fod yn rhannu dy farn ar ddysgu ac addysgu yma yn Abertawe a’th feddyliau am brofiad cyffredinol y myfyriwr, drwy lenwi’r holiadur. Nid yw’n cymryd hir, a bydd staff a chynrychiolwyr yn bresennol i roi cymorth os bydd angen!
Mae dy adborth yn bwysig iawn i ni ac mae’n ein helpu i barhau i wella pob agwedd ar fywyd yn y Brifysgol.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn dechrau am 10am ac yn dod i ben am 3pm, felly noda’r dyddiad yn dy ddyddiadur a rho wybod i’th ffrindiau.
Daeth cannoedd o fyfyrwyr i’r Ŵyl Adborth y llynedd, a chawson ni amser GWYCH. Paid â cholli’r cyfle hwn!