Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol.
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru a’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST).