Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad Ysgol Uwchradd a gynhelir yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ffordd Llandennis
Cyncoed, Caerdydd, CF23 6WG, ddydd Mawrth 25 Mehefin rhwng 10.00am ac 2.00pm.
Bydd yr ymweliad yn gyfle i arsylwi ar wersi, cwrdd â rhai o dîm y Brifysgol yn ogystal â staff a disgyblion o un o’n Hysgolion Arweiniol.
Mae rhaglen yr ymweliad i’w gweld isod:
- Croeso gan staff Ysgol Uwchradd Caerdydd a’r Brifysgol
- Panel disgyblion
- Cyflwyniad Addysgwyr Cymru
- Arsylwi ar wers
- Sesiwn holi ac ateb gydag athrawon newydd gymhwyso a thîm y brifysgol
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gadw eich lle drwy’r ddolen ganlynol erbyn dydd Llun 24 Mehefin 10am: Secondary School Experience Day ~ Diwrnod Profiad Ysgol Uwchradd Tickets, Tue, Jun 25, 2024 at 10:00 AM | Eventbrite