Ewyn y don ar y sgrin
Noson o ffilmiau syrffio byr wedi’u curadu gan ‘Daughters of the Sea’, cymuned o Abertawe. O ffordd o fyw hirfyrddio, i syrffwyr a sglefrwyr arloesol Ghana, a thonnau gwyllt y môr y gaeaf ym Mhortiwgal, mae’r ffilmiau byr hyn yn dathlu cenhedlaeth gyffrous o syrffwyr benywaidd.