Twyni Crymlyn yw gwarchodfa natur y Brifysgol ar bwys Campws y Bae ac mae’n bwysig yn genedlaethol am y bywyd gwyllt yno. Mae sbwriel yn cyrraedd y traeth ar bob llanw ac oni bai ein bod yn ei gasglu, bydd yno am byth.
Mae sesiynau glanhau’r traeth yn ffordd wych o fwynhau’r lle arbennig hwn, mwynhau amser yn yr awyr iach wrth ei adael mewn cyflwr gwell na phan gyrhaeddaist ti.
Darperir yr holl gyfarpar. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a bydd yn rhaid i ti gofrestru am resymau tracio ac olrhain. Rydyn ni’n cwrdd wrth y llwybr pren y tu ôl i’r Neuadd Fawr.
Ar agor i Fyfyrwyr, Staff, a’r Gymuned!
Gall y digwyddiad hwn hefyd gyfrannu at dy Wobr Global Citizen.