Cyflwynwch Stori
Cyflwyno straeon i'r cylchlythyr myfyrwyr bob pythefnos
Anfonir e-bost a phynciau nad ydynt yn rhai brys fel crynodeb yng nghylchlythyr y Myfyrwyr.
Y dyddiad cau ar gyfer cyfrannu stori at y Cylchlythyr Myfyrwyr yw 4pm bob dydd Gwener.
Cyn cyflwyno erthygl, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- Dylai erthyglau apelio at gynulleidfa eang o fyfyrwyr ar draws y Brifysgol.
- Mae angen manylion hanfodol gan gynnwys teitl a manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth
- Rhaid cyflwyno copi gyda chyfieithiad Cymraeg
- Rhaid i unrhyw luniau a gyflwynir gael cymeradwyaeth hawlfraint
- Anfonwch luniau/graffigwaith perthnasol yn y dimensiynau canlynol:
1080px x 1080px (cyfryngau cymdeithasol)
1770px x 850px (ein cylchlythyr ar-lein)
Os nad ydych chi’n gallu newid maint eich llun/graffigwaith, anfonwch y ffeil wreiddiol.
*Gwnewch yn siŵr bod yr holl luniau/graffigwaith yn hygyrch a pheidiwch â defnyddio testun lle bynnag y bo modd.
*Sylwer na allwn ddefnyddio lluniau/graffigwaith mewn fformat poster
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gylchlythyr y myfyrwyr, e-bostiwch student-newsletter@abertawe.ac.uk.
Calendr Digwyddiadau
Os hoffech i ni hysbysebu a hyrwyddo digwyddiad sydd ar ddod ar eich rhan chi, anfonwch ragarweiniad dwyieithog atom ynghyd â theitl, amser, dyddiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol ynghylch cadw lle i student-newsletter@abertawe.ac.uk.
Defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau myfyrwyr: Canllawiau e-bostio’r holl fyfyrwyr
Oes gennych neges bwysig sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ac efallai fod angen anfon e-bost at yr holl fyfyrwyr?
Cyfyngir ar nifer y negeseuon a anfonir at yr holl fyfyrwyr er mwyn sicrhau nad ydynt yn boddi mewn negeseuon e-bost. Mae’n ofynnol i bob aelod staff gydymffurfio â’r canllawiau er mwyn sicrhau ein bod yn glynu wrth arfer da wrth gyfathrebu.
E-bostio’r holl fyfyrwyr
Y rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr yw’r dull a ddefnyddir i rannu gwybodaeth hanfodol y brifysgol. Gellir anfon negeseuon o’r categorïau canlynol yn uniongyrchol at bawb ar y rhestr:
- Negeseuon swyddogol neu ffurfiol (er enghraifft, dyddiadau tymor, newyddion am wasanaethau newydd)
- Negeseuon brys am yr amgylchedd neu ddiogelwch gan y Brifysgol (er enghraifft gwybodaeth am lid yr ymennydd, cyhoeddiadau Ystadau, cyngor ar ddiogelwch personol gan yr heddlu)
Ni chaniateir anfon negeseuon am y pynciau canlynol yn uniongyrchol at bawb ar y rhestr, ond gellir eu cynnwys yn y cylchlythyr wythnosol ar gyfer myfyrwyr:
- Cyhoeddiadau adrannau neu gyhoeddiadau am gynadleddau (er enghraifft seminarau ymchwil, manylion cynadleddau)
- Arolygon
- Negeseuon am ddigwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol (er enghraifft, gan y Ganolfan Chwaraeon neu Ganolfan Taliesin)
- Gwybodaeth am yrfaoedd
- Gwybodaeth Gwasanaethau Myfyrwyr
- Digwyddiadau ar y campws
- Cyfleoedd i gyfranogi neu i ennill incwm (er enghraifft grwpiau ffocws, cyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau)
Os nad yw aelod staff yn cydymffurfio â’r canllawiau neu os yw’n defnyddio’r rhestr mewn modd annerbyniol, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wahardd yr unigolyn hwnnw rhag defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr. Gwneir y fath benderfyniad gan Ddirprwy Is-ganghellor, y Cofrestrydd, a’r Prif Swyddog Gweithredol.