Rydym yn deall bod nifer o broblemau’n effeithio ar y rhai hynny yn eich plith sy’n teithio i Gampws y Bae ac oddi yno, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi adborth i ni hyd yn hyn. Rydym yn awyddus i gyflwyno’r newyddion diweddaraf am y sefyllfa bresennol, a hoffem gynnig sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth y gallwn i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i chi.

Teithio ar y Bws

Rydym yn ymwybodol iawn o’r problemau y mae rhai ohonoch yn eu hwynebu o ran gwasanaethau bws lleol, yn enwedig y rhai hynny a ddarperir gan First Cymru sy’n gwasanaethu Campws y Bae. Mae’r problemau hyn yn bodoli er gwaethaf newidiadau sylweddol i’r rhwydwaith o wasanaethau bws rhwng canol y ddinas a’r ddau gampws, gyda gwasanaeth 15 munud yn ystod y cyfnodau prysuraf ar y bysiau 90 a 90a newydd sy’n gwasanaethu Campws y Bae (yn unol â’r cytundeb â First Cymru o 8 Ionawr 2024).

Rydym yn deall bod gwasanaeth rhif 91 o gampws i gampws sy’n teithio drwy’r orsaf fysiau, Uplands a Sgeti wedi cael ei gwtogi i wasanaeth bob awr rhwng 6:05 a 18:20, ac nad yw hwn yn diwallu anghenion teithio presennol ein myfyrwyr. Rydym hefyd yn ymwybodol nad yw gwasanaeth rhif 90a sy’n cyrraedd safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian yn gweithredu’n ddigon mynych ac yn aml mae’n ymddangos ei fod yn cael ei estyn i’r eithaf.

Er na allwn reoli sut mae’r gwasanaethau’n cael eu hamserlenni, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r darparwr cludiant lleol, First Cymru, i ddadlau dros wasanaethau bws gwell i fyfyrwyr a staff. Rydym yn hyderus y ceir gwelliannau i amlder, dibynadwyedd a gallu gwasanaethau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Er enghraifft, ac o ganlyniad i’n gwaith cyfathrebu â First Cymru, mae’r darparwr bellach wedi ymrwymo i gynnal y gwasanaethau canlynol y tu allan i’r tymor:

90: Llety myfyrwyr yng nghanol y ddinas i Gampws y Bae (drwy’r Orsaf Fysiau) – gwasanaeth bob awr

91: Campws i gampws (drwy’r Orsaf Fysiau) – gwasanaeth bob awr

92: Llety myfyrwyr yng nghanol y ddinas i Gampws Parc Singleton (drwy’r Orsaf Fysiau) – gwasanaeth bob awr

Yn y cyfamser, rydym wedi gwrando ar eich adborth ac i helpu i wella profiad ein cymudwyr i Gampws y Bae, rydym hefyd yn gwneud trefniadau interim ar gyfer y gwasanaethau ychwanegol canlynol:

Gwasanaeth ychwanegol o gampws i gampws

O ddechrau mis Mawrth, bydd First Cymru yn gweithredu gwasanaeth ychwanegol o gampws i gampws yn ystod oriau prysuraf y dydd, gan alw yn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys cyrchfannau, amserlenni a phrisiau’r gwasanaeth hwn yn dilyn yr wythnos nesaf.

Gwasanaeth gwennol i safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian ac oddi yno

O ddydd Llun 12 Chwefror tan ddiwedd tymor y gwanwyn ar 7 Mehefin 2024, bydd South Wales Transport yn gweithredu bws gwennol i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe bob 15 munud yn ystod y cyfnodau prysuraf rhwng safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae, yn uniongyrchol ac ar gylchdaith. Bydd hwn yn wasanaeth parcio a theithio i Gampws y Bae yn unig, a bydd yr amserlenni’n dilyn maes o law. Bydd hwn yn ategu gwasanaeth presennol rhif 90a, a fydd yn parhau i weithredu fel y mae ar hyn o bryd. Codir tâl o £1 i barcio ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian, ac mae rhagor o fanylion am y cyfleuster ‘Mwy Diogel o Fwriad’ gan Gyngor Abertawe ar gael ar-lein yma.

 

Parcio Ceir

Mae mannau parcio’n brin ar y campws ac ar draws y ddinas ac, yn unol â llawer o brifysgolion eraill yn y DU, rydym yn cynghori myfyrwyr i beidio â dod â’u ceir i’r brifysgol. Mae’r ymagwedd hon hefyd yn ategu ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd a’n hymrwymiadau i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2035.

Trefniadau Parcio i Ddeiliaid Hawlenni

Rydym yn deall bod angen i rai myfyrwyr deithio yn y car, o ganlyniad i amgylchiadau personol, ac felly rydym yn gallu cynnig hawlenni i fyfyrwyr cymwys.

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, y bu’n rhaid i ni adael y prif faes parcio ar Gampws y Bae, sydd dan berchnogaeth y datblygwr St Modwen, a rhoi trefniadau amgen ar waith ar safle Stiwdios y Bae, a hynny’n gyflym, ar gyfer staff a myfyrwyr sy’n dal hawlenni. 

O ran y myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys i gael hawlen, rydym yn parhau i’w cyfeirio i’r cyfleusterau awdurdodedig a gynhelir gan y cyngor ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian, sy’n cynnig cyfleusterau parcio diogel a fforddiadwy, yn ogystal â’r gwasanaethau bws sy’n cysylltu ein campysau. Rydyn hefyd yn atgoffa myfyrwyr yn rheolaidd i beidio â pharcio yn y gymdogaeth leol, neu ar safleoedd busnesau lleol, lle gallai parcio heb awdurdod arwain at ddirwyon.

Mae ein cwestiynau cyffredin yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd, os oes gennych ymholiad penodol am deithio nad ymdrinnir ag ef gan ein cwestiynau cyffredin, mae croeso i chi roi gwybod i ni amdano drwy ein ffurflen ar-lein fel y gallwn gasglu’r holl adborth mewn un man. Byddwn yn parhau i geisio gwrando arnoch a gweithredu, lle y bo’n briodol, i’ch helpu i gyrraedd ein campysau’n ddiogel.

Rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gwella eich profiad a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth ar yr adeg hon.