Nod yr wybodaeth ganlynol ynghylch teithio yw dy helpu i gyrraedd dy arholiadau mewn pryd ym mis Ionawr.

Gwna’n siŵr dy fod yn trefnu ymlaen llaw ac yn gwybod ble mae lleoliad eich arholiad (manylion isod). Yn hytrach na dal y bws olaf cyn dy arholiad, rho ddigon o amser i dy hun i gyrraedd mewn da bryd!

  • Neuadd Brangwyn – SA1 4PE
  • Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti, Neuadd Chwaraeon – SA2 8QG
  • Campws Parc Singleton – SA2 8PP
  • Campws y Bae – SA1 8EN
  • Edrycha ar y gwasanaethau bws Unibws newydd yma.
  • Rho gynnig ar ddefnyddio’r cynlluniwr teithiau yma.

Os byddi di'n teithio ar y bws

Byddi di’n gallu prynu tocynnau diwrnod i fyfyrwyr ar bob gwasanaeth First Bus ar draws rhwydwaith cyfan Bae Abertawe ar gyfer holl gyfnod yr arholiadau.

Cynllunia ymlaen llaw a defnyddia ap neu wefan First i ddod o hyd i holl wasanaethau perthnasol First Bus

O Sgeti, Uplands a Heol Walter:

  • I Gampws y Bae a Champws Singleton – Edrycha ar yr amserlen unwaith yr awr newydd ar gyfer y gwasanaeth 91 yma (Gweler isod gwasanaeth coets ychwanegol i Gampws y Bae.)

O Ganol y ddinas (Gorsaf Fysys y Cwadrant):

  • I Gampws y Bae – gwasanaethau bws rhif 90, 91, X1, X5, X7 a 38 o gilfannau D i G
  • I Gampws Singleton, Neuadd Chwaraeon Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Neuadd Brangwyn – rhif 3a, 91, 92, 4 o gilfannau R i X (y tu allan i Gampws Singleton)

O Roost/True:

  • I Gampws Singleton, Neuadd Chwaraeon Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Neuadd Brangwyn – rhif 92 (bob 15 munud) y tu allan i True a Roost.
  • I Gampws y Bae o True a Roost– rhif 90 (bob 15 munud)
  • I Gampws y Bae o Roost yn unig – (90a bob 30 munud)

Bysiau arholiadau

Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio rhwng y campysau, bydd gwasanaeth uniongyrchol sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth De Cymru yn mynd o Gampws Singleton i’r Bae ac o’r Bae i Gampws Singleton.

  • Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio o Gampws Singleton i Gampws y Bae:

I Gampws y Bae drwy’r Cae Hamdden (y Rec), a Champws y Bae. Gwasanaeth Trafnidiaeth De Cymru fydd hwn, a fydd yn gadael Campws Singleton am 8.30am ac 1.00pm.

  • Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio o Gampws y Bae i Gampws Singleton:

I Neuadd Chwaraeon Parc Chwaraeon Bae Abertawe a Neuadd Brangwyn, bydd gwasanaeth Trafnidiaeth De Cymru yn gadael Campws y Bae am 8.30am ac 1.00pm.

Ar ôl arholiadau, bydd bysiau a fydd yn dychwelyd yn gadael Campws Singleton am 12.30 a 4.30pm

  • Bysys arholiad o arosfannau Croes Sgeti, Uplands a Heol Walter i Gampws y Bae:
    • Gadael Croes Sgeti am 8.15am ac yn stopio ym mhob arhosfan rhwng Croes Sgeti, Uplands, Heol Walter a Champws y Bae.
    • Bydd y bws a fydd yn dychwelyd o Gampws y Bae yn gadael am 12.15pm.
    • Gadael Croes Sgeti am 12.45am ac yn stopio ym mhob arhosfan rhwng Croes Sgeti, Uplands, Heol Walter a Champws y Bae.
    • Bydd y bws a fydd yn dychwelyd o Gampws y Bae yn gadael am 4.30pm.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gyrru i arholiad ar Gampws y Bae, argymhellwn ddefnyddio Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian lle bydd gwasanaeth bws gwennol ar waith. Cadwa lygad am goetsis Trafnidiaeth De Cymru.

Os byddi di'n seiclo

Cofia fod beiciau Santander Cycles ar gael ar Gampws Singleton a Champws y Bae yn ogystal â Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a’r Mwmbwls.

Yn ogystal, mae cloeon, goleuadau a chitiau atgyweirio pynjars ar gael o dderbynfeydd My Uni Hub ar y ddau gampws, Y Tŵr ar Gampws y Bae a derbynfa Tŷ Fulton ar gampws Parc Singleton.