Yn ddiweddar, mae Tîm y Llyfrgell a Chasgliadau wedi gosod Sganiwr ‘Bookeye 5’ A2 o safon broffesiynol, sy’n gallu adnabod nodau gweledol (OCR). Mae’r ychwanegiad newydd hwn i’r llyfrgell yn ased i’w groesawu’n fawr, gan ei fod yn cynnig ystod o nodweddion argynhwysol i gefnogi pob math o waith academaidd a phrosiectau, gan gynnwys:
1. Sganio hunanwasanaeth, o safon broffesiynol
2. Galluoedd adnabod nodau gweledol (OCR) cynwysedig: Gall defnyddwyr sganio deunydd sydd wedi’i brintio a’i drawsnewid yn destun y gellir ei olygu a’i chwilio trwy’r dechnoleg adnabod nodau gweledol (OCR). Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol yn benodol i fyfyrwyr sydd angen dethol a thrafod darnau o destun o ddogfennau sydd wedi’u sganio at ddibenion ymchwil neu astudio.
3. Daliwr llyfr maint A2 (ar gyfer testun/posteri mwy etc.)
4. Nodweddion wedi’u hawtomeiddio (hunan-docio a hollti tudalennau)
5. Cefnogaeth ar gyfer prosiectau sganio mawr.
Gallwch ddod o hyd i’r sganiwr yn ardal argraffu yn Llyfrgell Parc Singleton.