Dewch draw ar un o’r dyddiadau canlynol! A chofiwch ddod â’ch beic os oes gennych un. Gall myfyrwyr sy’n dod â’u beic i mewn gyda nhw dderbyn cloeon a goleuadau am ddim. Dydd Llun, Mawrth 18fed 10am tan 4pm y tu allan i Fulton House, Campws Parc Singleton Dydd Gwener Mawrth22ain 10am tan 4pm y tu allan i’r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae.

Fel arfer, bydd llawer yn digwydd gan gynnwys:

  • Sesiynau Dr Bike.
  • Gwybodaeth am ostyngiad ar offer beicio.
  • Gwybodaeth am hyfforddiant beicio.
  • Gwybodaeth a threialon beiciau wedi’u haddasu.
  • Cyngor ar ddiogelwch a marcio beiciau diogelwch.
  • Gwybodaeth am aelodaeth am ddim ar gynllun beicio Santander Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol, ewch i’n tudalennau gwe.