Fel noddwr swyddogol Hanner Marathon Abertawe, mae’n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â #Tîm Abertawe, a manteisio ar un o leoedd am ddim neu ostyngedig y Brifysgol sydd ar gael ar gyfer ras 2024.

Cynhelir y ras ddydd Sul 29 Mehefin 2024 y flwyddyn nesaf a bydd yn fwy ac yn well nag erioed wrth i ni ddathlu pen-blwydd y ras yn 10 oed.

Yn dilyn llwyddiant #tîmabertawe Prifysgol Abertawe yn 2023 a thros 100 o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr yn rhedeg dros Brifysgol Abertawe, codwyd dros £20,000 i gefnogi prosiectau iechyd meddwl ar draws y Brifysgol, ac rydym yn awyddus i gynnig y cyfle i gynifer ohonoch â phosib i gymryd rhan.

Os hoffech gael her newydd, am godi arian at achos da, neu rydych yn dwlu ar redeg, ymunwch â #TîmAbertawe – ‘Cymryd camau breision dros iechyd meddwl’ drwy glicio ar y ddolen a chofrestru eich manylion.

Sut i gofrestru

Cofrestrwch eich manylion yma a bydd un o’n tîm yn cysylltu â chi ar ôl tynnu’r enwau.

Y cymorth y byddwch yn ei dderbyn

Fel rhan o #TîmAbertawe, byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf drwy e-bost gydag awgrymiadau ysgogol a sut i godi arian, straeon am redwyr a mynediad i ddigwyddiadau arbennig.

Y ras

Hanner Marathon Abertawe sydd wedi ennill sawl gwobr yw ras yr haf fwyaf a gorau yng Nghymru gan fwynhau golygfeydd godidog Bae Abertawe ar hyd y daith. Os ydych yn rhedwr elît neu’n rhedeg y ras am y tro cyntaf, mae’n berffaith ar gyfer unrhyw allu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau eich lle i #Redegbertawe yn 2024!

 Yr Ymgyrch

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd camau breision dros les gwell, ac yn credu na ddylai neb sy’n cael trafferth â’i iechyd meddwl ddioddef ar ei ben ei hun. Ymunwch â ni yn awr i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb, o atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gweithlu’r GIG mwy gwydn, ac atgyfeirio at ymarfer corff i fyfyrwyr sy’n teimlo dan straen. Gallwch ddarllen mwy am gefnogi gwaith pwysig y Brifysgol yn y maes hwn ar ein gwefan.

Ddim yn siŵr o hyd? Edrychwch ar y rhai a wnaeth gymryd rhan y llynedd a pham y gwnaethant benderfynu rhedeg.

Ymunwch â #TîmAbertawe

Cofrestrwch heddiw