Mae 14 Mawrth yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, diwrnod sy’n darparu cyfle i hyrwyddo lles meddyliol, lleihau stigma, ac annog trafodaethau agored am heriau iechyd meddwl gall cymuned y brifysgol eu hwynebu.Roedden ni am gysylltu er mwyn gweld sut ydych chi. Bydd rhai ohonoch chi wedi bod gyda ni yn Abertawe ers sbel nawr, a bydd rhai ohonoch chi newydd gyrraedd. Waeth beth fo’ch sefyllfa, rydyn ni’n gobeithio eich bod chi’n gwneud yn dda ac yn mwynhau eich amser yn y Brifysgol.

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi gael cymorth ychwanegol, mae llawer o wasanaethau a mentrau gwahanol ar gael i chi, p’un a ydych chi’n fyfyriwr israddedig, ôl-raddedig neu ymchwil. Hoffen ni amlygu’r rhai canlynol:

Dywedodd 81% o fyfyrwyr fod costau byw cynyddol wedi achosi dirywiad yn eu hiechyd meddwl – Cibyl, 2023

Cymorth gyda chostau byw

Rydyn ni’n gwybod bod effeithiau costau byw’n creu straen i bobl ledled y DU. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn darparu brecwastau costau byw wythnosol ar y ddau gampws tan ddiwedd mis Mehefin:

  • Campws Singleton: Dydd Mawrth 9:30-11:30 – Bar JC’s
  • Campws y Bae: Dydd Iau 9:30-11:30 – Y Twyni

Mae’r tîm hefyd yn cynnig gwasanaeth banc bwyd wythnosol sydd ar gael i bob myfyriwr:

  • Campws Singleton: Dydd Gwener 2:30-3:30 – Cyntedd Adeilad Faraday
  • Campws y Bae: Dydd Iau 10:30-11:30 – Y Twyni 

Cronfeydd Caledi

Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl sydd y tu allan i’ch rheolaeth, yna efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol drwy’r cronfeydd caledi a gynigir gan Arian@BywydCampws. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael taliad ar ffurf grant na fydd yn rhaid ei ad-dalu.

I gael rhagor o wybodaeth a chyflwyno eich cais, ewch i dudalen we Arian@BywydCampws.

Dywedodd 30% o fyfyrwyr fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers cychwyn yn y Brifysgol – Student Minds, 2024

Eich pecyn cymorth am fywyd myfyriwr

Yn ddiweddar, gwnaethon ni lansio cwrs ar-lein newydd sbon i fyfyrwyr; ei nod yw meithrin y sgiliau a rhoi llwyth o wybodaeth i’ch helpu yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Hapus yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau gweithredu i’ch galluogi i ymdrin â materion megis pryder cymdeithasol, gohirio cyn gwneud rhywbeth, rheoli cyllid a meithrin gwydnwch. Dyma flas ar y math o gynnwys y gallwch chi ei ddisgwyl gan Hapus:

Wyddech chi fod Ysgogi Ymddygiad yn strategaeth sy’n targedu hwyliau isel ac uchel? Mae’n bwysig deall bod straen ac ansefydlogrwydd yn ein bywydau yn creu mwy o straen a gall hynny fod yn drech na’r system. Allwn ni ddim rheoli’r byd mwy, ond gallwn ni greu sefydlogrwydd drwy greu strwythur sy’n gwneud ein profiad o’r byd yn fwy rhagweladwy. Er enghraifft:

  • Mae angen i ni fynd i’r gwely a deffro ar amserau sy’n gyson.
  • Mae angen i ni symud a chymryd rhan mewn hobïau bob dydd.
  • Mae angen i ni hefyd gynnwys tasg y gellir ei rheoli bob dydd.
  • Mae gan bobl wahanol adegau gwahanol o’r dydd sydd fwyaf heriol, naill ai yn y bore neu gyda’r hwyr. Mae angen i’ch amserlen gynnwys strategaethau mwy cefnogol ar gyfer yr amserau hynny.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Hapus ar ein tudalen we.

Togetherall

Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol sydd ar gael yn togetherall.com. Gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost y Brifysgol, gallwch chi gael mynediad at gymorth dienw 24/7 ac mae clinigwyr hyfforddedig ar-lein bob amser, yn ogystal ag ystod o adnoddau defnyddiol. Mae’n rhywle diogel i arllwys eich cwd, i gael sgyrsiau, i fynegi eich hun yn greadigol, ac i ddysgu sut i reoli eich iechyd meddwl.

Trwy gofrestru ar gyfer cyfrif Togetherall cewch fynediad at adnoddau defnyddiol a gallwch chi weithio trwy gyrsiau hunan-gymorth pwrpasol sy’n cynnwys pynciau megis gorbryder, straen, cwsg, rheoli pwysau, iselder, a llawer mwy ar eich cyflymder eich hun.

Dim ond 53% o fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl oedd wedi datgelu’r rhain i’r brifysgol – Unite Students, 2019

Eich dewis chi ydyw’n llwyr os ydych yn datgelu gwybodaeth am eich cyflwr iechyd meddwl.

Efallai y byddwch yn sylwi nad yw eich cyflwr yn cael effaith ar eich gallu i astudio, felly nid ydych yn teimlo ei fod yn berthnasol i’w ddatgelu. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr i ddatgelu’n benodol os gallai eich cyflwr gael effaith ar eich gallu i astudio.

Gallai’r rhain fod yn bethau megis amser ychwanegol neu ystafell fach yn ystod amodau arholiad, ffyrdd eraill o asesu gwaith cwrs ac ati. Mae hefyd yn golygu na allwn gynorthwyo a symud unrhyw gais am yr hyn a elwir yn Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), neu unrhyw gymorth ffurfiol neu gymorth ychwanegol nad oes prawf modd ar ei gyfer yn ei flaen.

Os wyt ti am fynd ymlaen i roi gwybod i ni yn ffurfiol am dy gyflwr iechyd meddwl, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr.

Ni fyddwn yn rhoi gwybod i unrhyw adran am dy gyflwr oni bai fod gennym dy ganiatâd i wneud hynny.

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi gael gwybodaeth neu gymorth ychwanegol wrth ddefnyddio’r gwasanaeth, byddwn ni’n cynnal rhai sesiynau gwybodaeth am gael mynediad at gymorth yn Abertawe, Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) a Gwahaniaethau Dysgu Penodol/Asesiad Diagnostig.

Dengys tystiolaeth fod helpu eraill hefyd yn gallu  helpu ein hiechyd meddwl a lles – Sefydliad Iechyd Meddwl, 2023

Gwirfoddoli gyda Discovery

Ydych chi wedi clywed am elusen gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr ar y campws o’r enw Discovery? Mae llawer o gyfleoedd difyr a buddiol sydd ar gael i chi ar hyn o bryd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cip arnyn nhw!

Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau a helpu eich cymuned leol. Mae llawer o ymchwil yn awgrymu bod gwirfoddoli eich amser yn gallu cael buddion cadarnhaol anhygoel i’ch iechyd meddwl a’ch lles eich hun.

Mae eich iechyd a’ch lles yn hynod bwysig i ni ac roedden ni am sicrhau eich bod chi i gyd yn ymwybodol o’r amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr rydyn ni’n eu cynnig. Weithiau, gall bywyd gyflwyno heriau annisgwyl, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen drwy’r rhain ac yn rhoi nod tudalen ar y dolenni hyn, fel y byddwch chi’n gwybod ble ydyn ni os bydd ein hangen ni arnat ti rywbryd!

Ar ben hynny, cadwch lygad am ddigwyddiadau sydd ar ddod, gweithdai ac adnoddau am ddim a all wella eich profiad yn y Brifysgol a helpu eich lles cyffredinol. Os oes gennych chi bryderon neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’n timau cymorth cyfeillgar. Gallwch chi ddod o hyd i restr gyflawn o wasanaethau ar wefan MyUni.

Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael tymor gwych!