Wyddet ti fod tîm Arian@BywydCampws yn cynnig cronfeydd caledi a dyfarniadau arbennig i’th gefnogi di?Darllena ymlaen i gael mwy o wybodaeth am y cronfeydd sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24…

Rwy'n fyfyriwr sy'n talu ffïoedd y DU

Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe

Mae Arian@BywydCampws yn rhoi cymorth ariannol i gefnogi myfyrwyr cymwys sy’n wynebu anawsterau ariannol drwy Gronfa Gyfle Prifysgol Abertawe. Os wyt ti’n cael trafferth gyda chostau byw, yn wynebu taliadau annisgwyl neu’n wynebu straen ariannol nad wyt wedi’i rhagweld, gobeithio y gallwn dy helpu gyda dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu. 

(Sylwer er nad oes sicrwydd o gael dyfarniad o’r gronfa, byddwn yn ceisio cefnogi myfyrwyr a rhoi cymorth yn y tymor byr gyda chostau byw hanfodol pan fo’n briodol)

Cymorth gyda Phrawf Diagnostig (Anghenion Dysgu Penodol)

Os oes angen diagnosis o Anghenion Dysgu Penodol arnat fel ffordd o gael cymorth atodol ar gyfer dy astudiaethau ac yr wyt ti’n cael trafferth wrth ariannu cost prawf, gelli di gyflwyno cais i’r gronfa Cymorth gyda Phrofion Diagnostig. Mae dyfarniadau’n seiliedig ar galedi ariannol presennol ac maent wedi’u capio ar gyfer cost prawf diagnosis Anghenion Dysgu Penodol yn unig. Os byddi di’n llwyddiannus yn cael dyfarniad o’r gronfa ni fydd yn rhaid ei ad-dalu.

Gweler ein tudalen we ddynodedig i gael mwy o wybodaeth am y cronfeydd uchod gan gynnwys meini prawf cymhwysedd llawn: Swansea University Opportunity Award (SUOA) and Assistance with Diagnostic Testing Information.

Taliad Cymorth Gofal Plant

Bwriad ein Taliad Cymorth Gofal Plant yw ategu’r grant gofal plant a geir gan dy ddarparwr cyllid myfyrwyr. Mae dyfarniadau ar gael hyd at uchafswm o £1,000 (myfyrwyr amser llawn) a  £500 (myfyrwyr rhan-amser).  Rhaid bodloni’r meini prawf i gymhwyso.

Taliad Cymorth Mamolaeth

Wyddet ti ein bod ni’n cynnig dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n feichiog? Taliad untro gwerth £600 yw’r Taliad Cymorth Mamolaeth. Rhaid cyflwyno ceisiadau 10 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’th fabi gyrraedd a bydd angen atodi ffurflen MATB1 fel tystiolaeth i ategu’th

gais.

Taliad Cymorth Ôl-raddedig

Os wyt ti’n fyfyriwr ôl-raddedig sy’n gofyn am gymorth gyda chostau sy’n ymwneud â chwrs, cyflwyna gais ar gyfer ein Taliad Cymorth Ôl-raddedig.  Mae hwn yn ddyfarniad prawf modd, untro gwerth £300 i gyfrannu at dy astudiaethau.

Taliad Cymorth Profedigaeth

Mae Arian@BywydCampws yn gwybod pa mor anodd y gall profedigaeth fod a sut gall effeithio ar dy astudiaethau. Dyfarniad untro gwerth £300 yw’r Taliad Cymorth Profedigaeth i helpu gyda chostau ariannol annisgwyl sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth.*

*Os wyt ti’n fyfyriwr rhyngwladol sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar sydd wedi effeithio ar dy gynllun ariannol, cyflwyna gais am y cymorth hwn drwy’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol (mae mwy o fanylion am y gronfa hon ar gael isod). 

Gelli di gael yr wybodaeth lawn am y Dyfarniad Gofal Plant, y Taliad Mamolaeth, y Taliad Cymorth Ôl-raddedig a’r Taliad Cymorth Profedigaeth yma: Arian@BywydCampws Dyfarniadau Arbennig

Sylwer bod cyflwyno cais am unrhyw un o’r ‘Dyfarniadau Arbennig’ yn dy atal rhag cyflwyno cais am Ddyfarniad Cyfle Prifysgol Abertawe neu am Gymorth gyda Phrawf Diagnostig

Rwy'n fyfyriwr sy'n talu ffioedd tramor

International Student Support Fund (ISSF)

Cronfa Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae Arian@BywydCampws yn falch o allu cynnig y Gronfa Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Mae’r Gronfa hon yn gronfa galedi sy’n gallu cefnogi myfyrwyr rhyngwladol gydag anawsterau ariannol yn y byrdymor.

Mae’r Gronfa’n cynnig dyfarniadau nad oes rhaid eu had-dalu i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau cymorth ariannol oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

Bydd angen i ti ddangos bod gennyt ddarpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer dy ffïoedd dysgu a chostau byw cyn dechrau ar dy gwrs.

Gweler yma am drosolwg llawn o’r Gronfa: Cronfa Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol

Ddim yn siŵr os wyt ti’n gymwys?

Dim problem! Os wyt ti’n ansicr a wyt ti’n gymwys, e-bostia ni yn hardshipfunds@abertawe.ac.uk a bydd un o’r tîm yn hapus i’th gynghori ymhellach.

 

*Sylwer bod yr holl gronfeydd yn amodol ar argaeledd.

 

 

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.