Wrth i ni nesáu at wyliau’r Pasg, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno gwyliau haeddiannol i ti.
Bydd Prifysgol Abertawe’n gweithredu cyfnod gŵyl y banc estynedig o 28 Mawrth tan 3 Ebrill, felly bydd oriau agor llai ar gyfer llawer o’n gwasanaethau. Er mwyn dy alluogi i gynllunio ymlaen llaw, gweler yr wybodaeth isod am oriau agor gwasanaethau.
Cysyllta â thîm gwybodaeth dy ysgol os oes ymholiadau gennyt ti ynghylch addysgu neu leoliadau gwaith sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer y dyddiadau ychwanegol hyn pan fydd y Brifysgol ar gau dros ŵyl y banc.
MyUniHub a Thimau Gwybodaeth Cyfadrannau
Bydd ein desgiau gwybodaeth ar agor fel arfer a bydd oriau cyswllt yn aros yr un fath dros wyliau’r Pasg, fodd bynnag bydd y gwasanaethau hyn ar gau am gyfnod estynedig gŵyl y banc.
Llyfrgelloedd y Brifysgol
Bydd adeilad y Llyfrgell yn parhau i fod ar agor 24 awr dros wyliau’r Pasg. Sylwer fodd bynnag, bydd desg MyUni yn y Llyfrgell ar gau ddydd Iau, Gwener, Llun a dydd Mawrth ond yn gweithredu oriau penwythnos arferol ar ddydd Sadwrn a dydd Sul penwythnos y Pasg.
Bydd Llyfrgell Parc Dewi Sant ar agor fel arfer ar ddydd Iau y 28fed o Fawrth ac ar gau ar gyfer Gŵyl Banc y Pasg tan yr ail o Ebrill.
Mannau Arlwyo
Sylwch y bydd amseroedd agor ein mannau arlwyo yn newid dros gyfnod y Pasg. Am oriau agor o 23ain o Fawrth, clicwch yma. Bydd yr oriau agor yn ôl i’r arfer o Ebrill y 14eg.
Arlwyo
Yn ystod gwyliau’r Pasg (o 22 Mawrth tan ddechrau tymor y gwanwyn), bydd gwasanaethau 90, 91 a 92 yn parhau i redeg. Bydd y rhain yn wasanaethau bob awr yn ystod y gwyliau. Gallwch ddod o hyd i’r amserlenni ar-lein yma.
Undeb y Myfyrwyr
Bydd eich UM yn cau ddydd Iau yr 28ain o Mawrth a bydd yn dychwelyd i’w weithrediad arferol 11eg Ebrill.
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Byddwn ar agor fel arfer ar ddyddiadau cau ychwanegol y Brifysgol ar Ddydd Iau y 28ain o Fawrth a Dydd Mawrth yr 2il o Ebrill ond bydd rhai newidiadau i’n horiau agor dros y Pasg, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y diweddaraf yma.
Os oes gennyt gwestiynau yn ystod y cyfnod cau estynedig, defnyddia wefan MyUni i weld a oes ateb i’th ymholiad. Fel arall, bydd staff y Brifysgol yn ateb unrhyw gwestiynau cyn gynted â phosibl pan fydd yr oriau arferol yn ailddechrau ar 3 Ebrill. Os oes angen cymorth brys arnat yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc, ceir rhestr o gysylltiadau ar ein tudalennau gwe.