Live-Gam: Effeithiau gwylio cynnwys sy'n gysylltiedig â gamblo drwy ffrydiau byw ar ymddygiadau ac ymagweddau at gamblo

Beth yw nodau’r astudiaeth?

I asesu effaith gwylio cynnwys gamblo ar ffrydiau byw ar ymddygiadau ac ymagweddau pobl ifanc at gamblo.

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

  • Arolwg ar-lein 20 munud am dy brofiadau o ffrydiau byw, hapchwarae a gamblo
  • Opsiwn i gymryd rhan mewn rhagor o ymchwil (cyfweliad ar-lein), os byddi di’n gymwys

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

I gymryd rhan, rhaid i ti fod:

  • Rhwng 18 oed a 24 oed
  • Yn byw yn y Deyrnas Unedig
  • Yn siaradwr Saesneg

Os oes gennyt ti ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfona e-bost at Chelsea Hughes neu cofrestrwch yma.