Ni fydd y cynllun teithio am ddim a elwir yn “Tocyn Croeso” ar gael mwyach ar wasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru o 1 Ebrill 2024.

Mae hyn yn golygu os oeddech chi’n elwa o’r cynllun, bydd yn rhaid i chi dalu i deithio o hyn ymlaen. Serch hynny, efallai y byddwch yn gymwys am un o gynlluniau teithio am ddim neu am bris gostyngol Llywodraeth Cymru os ydych yn:

  • berson ifanc rhwng 16 a 21 oed – Gallwch gyflwyno cais am FyNgherdynTeithio er mwyn i chi deithio ledled Cymru am bris gostyngol.
  • Teithiwr anabl neu dros 60 oed – Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru ac rydych yn bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, neu dros 60 oed, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth am y rhain a thocynnau teithio gostyngol eraill, ewch i www.traveline.cymru  

Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu talu eich costau teithio, e-bostiwch money.campuslife@abertawe.ac.uk a fydd yn gallu trafod yr opsiynau sydd ar gael.