Sut ydych chi’n meddwl y dylai cynllun llogi beiciau yn Abertawe edrych yn y dyfodol? Ydy’r gwelliannau diweddar i fysiau wedi gwneud gwahaniaeth i chi? Oes gennych chi broblem, datrysiad neu syniad i’w godi?

Os hoffech chi helpu i sicrhau bod Prifysgol Abertawe’n cadw ei statws fel Cyflogwr Sy’n Gyfeillgar i Feicio Safonol Aur, ac yn parhau i roi ystyriaethau ac anghenion myfyrwyr yn gyntaf o ran teithio ar fws, gallwch ymuno ag un o’n grwpiau defnyddwyr beicio a bysiau.

Yn ystod y sesiynau grŵp cewch gyfle i godi materion, trafod problemau neu gyflwyno syniadau a datrysiadau ynglŷn â sut y gallwn ni wella teithio beicio a bws yn Abertawe i fyfyrwyr y Brifysgol.

Mae’r grwpiau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd fel sesiynau zoom, ac maen nhw’n amgylchedd hamddenol, anffurfiol i roi syniadau ymlaen a thrafod sut y gallwn ni gyffinio ein gwasanaethau.

Cynhelir ein sesiynau nesaf ar:

Grŵp Defnyddwyr Beiciau – 9fed Ebrill – 12:00 – 13:00

Grŵp Defnyddwyr Bysiau – 11 Ebrill – 13:00 – 14:00

Os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch: estatesadmin@abertawe.ac.uk