Nod yr wybodaeth ganlynol ynghylch teithio yw dy helpu i gyrraedd dy arholiadau mewn pryd ym mis Mai.

Gwna’n siŵr dy fod yn trefnu ymlaen llaw ac yn gwybod ble mae lleoliad eich arholiad (manylion isod). Yn hytrach na dal y bws olaf cyn dy arholiad, rho ddigon o amser i dy hun i gyrraedd mewn da bryd!

  • Neuadd Brangwyn -SA1 4PE
  • Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti, Neuadd Chwaraeon – SA2 8QG
  • Campws Parc Singleton – SA2 8PP
  • Campws y Bae – SA1 8EN

Os byddi di’n teithio ar y bws:

Byddwch yn gallu prynu tocynnau Tap on, Tap off ar wasanaethau First Bus ar draws holl rwydwaith Bae Abertawe am gyfnod llawn yr arholiadau.

Edrycha ar y gwasanaethau bws Unibws newydd yma, a defnyddia yr ap neu wefan i cynllunio ymlaen llaw.

O Sgeti, Uplands a Heol Walter:

  • I Gampws y Bae a Champws Singleton – Edrycha ar yr amserlen unwaith yr awr newydd ar gyfer y gwasanaeth 91 yma.

O Ganol y ddinas (Gorsaf Fysys y Cwadrant):

  • I Gampws y Bae – gwasanaethau bws rhif 90, 91, X1, X5, X7 a 38 o gilfannau D i G
  • I Gampws Singleton, Neuadd Chwaraeon Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Neuadd Brangwyn – rhif 3, 3a, 91, 92, 4 o gilfannau R i X (y tu allan i Gampws Singleton)

O Roost/True:

  • I Gampws Singleton, Neuadd Chwaraeon Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Neuadd Brangwyn – rhif 92 (gwelwch amserlen) y tu allan i True a Roost.
  • I Gampws y Bae o True a Roost– rhif 90 (gwelwch amserlen)
  • I Gampws y Bae o Roost yn unig (90a bob 30 munud)

Yn ogystal â’r gwasanaethau uchod, gellir defnyddio gwasanaeth T6 Adventure Travel i gyrraedd Campws y Bae. Mae’r gwasanaeth yn mynd o orsaf fysiau Canol y Ddinas i Aberhonddu drwy Gampws y Bae.

Bysiau arholiadau

Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio rhwng y campysau, bydd gwasanaeth uniongyrchol sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth De Cymru yn mynd o Gampws Singleton i’r Bae ac o’r Bae i Gampws Singleton.

  • Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio o Gampws Singleton i Gampws y Bae:

I Gampws y Bae drwy’r Cae Hamdden (y Rec), a Champws y Bae. Gwasanaeth Trafnidiaeth De Cymru fydd hwn, a fydd yn gadael Campws Singleton am 8.30am ac 1.00pm.

  • Ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio o Gampws y Bae i Gampws Singleton:

Ar ôl arholiadau, bydd bysiau a fydd yn dychwelyd yn gadael Campws Singleton a Bae am 12.30 a 4.30pm.

There will be after exam return pickups leaving Singleton and Bay Campus at 12.30 and 4.30pm.

Gwasanaeth bws Parcio a Theithio Ffordd Fabian i Gampws y Bae

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gyrru i arholiad ar Gampws y Bae, argymhellwn ddefnyddio Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian am ddim lle bydd gwasanaeth bws gwennol ar waith. Cadwa lygad am goetsis Trafnidiaeth De Cymru.

Os byddi di’n seiclo

Cofia fod beiciau Santander Cycles ar gael ar Gampws Singleton a Champws y Bae yn ogystal â Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a’r Mwmbwls.

Yn ogystal, mae cloeon, goleuadau a chitiau atgyweirio pynjars ar gael o dderbynfeydd My Uni Hub ar y ddau gampws, Y Tŵr ar Gampws y Bae a derbynfa Tŷ Fulton ar gampws Parc Singleton.