Hoffen ni ddymuno Eid Mubarak arbennig iawn i gymuned ein Prifysgol!

Mae Eid al-Fitr yn ddathliad sy’n dod â’r gymuned Fwslimaidd ynghyd, gan bwysleisio diolchgarwch, tosturi, a thorri ympryd ar ôl mis o fyfyrio ysbrydol a hunanddisgyblaeth.

Os ydych chi’n dathlu heddiw, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael amser gwych.

Mae sawl darpariaeth ffydd i gefnogi myfyrwyr a staff ym mhob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys mannau crefyddol i’w defnyddio er mwyn gweddïo. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yma.