Gwnewch gais i fod yn Llysgennad Myfyrwyr ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2024-25 a chofiwch nodi eich bod chi’n siarad Cymraeg!

Dyddiad cau: Dydd Sul 21 Ebrill 2024. 

MAE CYMAINT O RESYMAU DROS DDOD YN FYFYRIWR LLYSGENNAD YM MHRIFYSGOL ABERTAWE:

  1. Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyflogedig gyda hyfforddiant lawn wrth ennill profiadau gwych i’w hychwanegu ar eich CV.
  2. Cwrdd â ffrindiau newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg; gyda chyfleoedd i weithio am dâl mewn adrannau arall ar draws y Brifysgol.
  3. Digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
  4. Cyfle i ymgeisio i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad ar ôl blwyddyn fel Myfyriwr Llysgennad.
  5. Gweithio tuag at Wobr Llysgennad y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ac Achrediad WOWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe a/neu Gwobr Academi Hywel Teifi a gydnabyddir ar eich tystysgrif HEAR wrth raddio.

Ar Gyfer Ymgeiswyr Llwyddiannus: 

Cyfweliadau Grŵp: Wythnos yn Cychwyn Dydd Llun 6 Mai 2024

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â studentambassadors@swansea.ac.uk