Mae’n bwysig bod gennym y manylion cyswllt a phersonol cywir ar eich cyfer chi. Mae angen i ni gynnal gwybodaeth gywir ar gyfer dogfennaeth swyddogol megis eich trawsgrifiad, neu os bydd angen i ni ohebu â chi dros y ffôn neu drwy lythyr.

A wnewch chi gymryd ychydig funudau’n mewngofnodi i’ch cofnod myfyrwyr ar y fewnrwyd a gwirio bod yr wybodaeth yn gywir.

Os yw eich manylion wedi newid, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diweddaru’r rhain drwy’r dull canlynol:

  • Mewngofnodwch i’r fewnrwyd  a nodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair
  • Dewiswch Manylion Personol   o’r ddewislen ar yr ochr chwith
  • Gallwch chi newid eich manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor, cyswllt dibynadwy a’ch enw o ddewis

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau MyUniHub neu e-bostiwch y tîm ar myunihub@abertawe.ac.uk