Bydd gwaith hanfodol yn dechrau ar Ebrill 22ain i wella cyflwr y grisiau i Lawnt Fulton.

Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Er mwyn cynnal mynediad i’r lawnt drwyddi draw, bydd pedwar cam i’r gwaith, gyda phob cam yn cymryd tua thair wythnos. Bydd rhannau o’r camau’n cael eu gwahardd at ddibenion diogelwch, gydag arwyddion yn eu lle.

Bydd y ffordd a’r system unffordd o amgylch y lawnt yn parhau i fod yn weithredol drwyddi draw, gyda mynediad llawn i’r gogledd a’r dwyrain o’r campws. Bydd gwasanaethau bws yn gweithredu fel arfer.

Diolchwn i chi am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth ac am weithio gyda ni yn ystod y gwaith seilwaith hanfodol hwn.

Awyrlun o ardal Lawnt Fulton yn dangos gwahanol gyfnodau o waith