Bwriedir y neges ganlynol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir sydd wedi cyflwyno eu gwaith Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd erbyn Mawrth 2024 neu’r rhai hynny a gofrestrodd ym mis Ionawr 2023 ac sydd wrthi’n aros am eu canlyniadau (os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti yn y categori hwn, gwiria gyda’th Ysgol/Gyfadran).

Caiff dy ganlyniadau eu cyhoeddi ar dy gyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd o 2 Mai 2024 am 9AM. Sylwch y bydd y dyddiadau uchod yn wahanol ar gyfer rhaglenni yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglenni hyn gysylltu â’u Hysgol/Cyfadran i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cyhoeddi canlyniadau.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn ymddangos ar y sgrîn ‘Modiwlau 2023’:

  • Y modiwlau a ddilynwyd a’r marciau a gyflawnwyd.
  • Y penderfyniad ynghylch dy ddyfarniad/dilyniant.
  • Esboniad o’th benderfyniad academaidd a gwybodaeth bellach.

Os cei di anawsterau wrth fewngofnodi i’th gyfrif myfyriwr ar y Fewnrwyd, cysyllta â’r Ddesg Wasanaeth TG.

Ymholiadau

Os oes gennyt ymholiadau ynghylch dy benderfyniad/ganlyniadau academaidd, fe’th gynghorir i gysylltu â’th Ysgol/Gyfadran.

Apeliadau Academaidd

Os hoffet ti apelio yn erbyn dy benderfyniad, mae canllawiau llym. Ceir rhagor o wybodaeth am y Weithdrefn Apeliadau Academaidd yma.

Trawsgrifiadau Academaidd

Gelli di gyrchu dy Drawsgrifiad Academaidd swyddogol drwy dy gyfrif myfyriwr ar y Fewnrwyd, ceir y botwm ‘Trawsgrifiad’ o dan y tab ‘Manylion y Cwrs’ ar yr ochr dde.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau hefyd yn gallu gweld eu trawsgrifiad a’u Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR) ar eu cyfrif Gradintel.

Gelli di weld/actifadu dy gyfrif Gradintel drwy dy Gyfrif MyUni – os oes gennyt ymholiadau, cysyllta ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu dy helpu di.

Graddio

Bydd y Swyddfa Raddio’n cysylltu â’r holl fyfyrwyr perthnasol sydd wedi derbyn dyfarniad i roi rhagor o wybodaeth am dystysgrifau gradd. Darllena’r tudalennau gwe Graddio am wybodaeth benodol am Seremonïau Graddio’r Gaeaf. Os bydd di’n graddio yn dy absenoldeb, caiff dy dystysgrif gradd ei hanfon i’th gyfeiriad cartref o fewn 8 wythnos i’r canlyniad gael ei gyhoeddi.

Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn na thrwy e-bost. 

Myfyrwyr Rhyngwladol

ylai’r holl fyfyrwyr sydd â fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr (neu Haen 4) fynd i’r dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am fewnfudo ar ôl derbyn canlyniadau. Bydd hyn yn helpu i esbonio unrhyw oblygiadau o ran fisa a/neu weithgarwch cysylltiedig y gall fod ei angen (gan gynnwys drwy’r Llwybr Graddedigion).

Gweler hefyd y dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am Lwybr Graddedigion y Du i gael arweiniad ychwanegol ar amseriadau, cymhwysedd a’r broses cyflwyno cais am fisa.

Y Swyddfa Asesu a Dyfarnu,
Gwasanaethau Addysg