Mae SOS-UK a Phrifysgol Abertawe’n cynnig cyfle cyffrous, sy’n agored i’r holl fyfyrwyr, lle gallwch dderbyn hyfforddiant sydd wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol ar archwilio cynaliadwyedd, ac yna roi eich sgiliau newydd ar waith drwy gynnal archwiliadau Effaith Werdd o adrannau/brosiectau’r Brifysgol  ddydd Mercher 15 Mai o 10am i 4:30pm.

Bydd yr hyfforddiant yn eich cefnogi i ddatblygu ac ymarfer sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, gwneud penderfyniadau, rheoli amser a threfnu. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth well o gynaliadwyedd yn y gweithle a’r hyn y mae Prifysgol Caerwrangon yn ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy.

 Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond parodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd! Ar ôl y diwrnod byddwch yn derbyn bathodyn digidol i brofi eich profiad.