Yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, rydym yn cynnal ymchwil i fuddion iechyd ymarfer corff y gellir ei wneud heb dreulio llawer o amser nac ymdrechu’n ormodol. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn ymchwilio i effeithiau math o ymarfer corff o’r enw hyfforddiant gafael isometrig ar bobl â phwysedd gwaed uchel.  

Beth yw hyfforddiant gafael isometrig? (IHGT) 

Mae hyfforddiant gafael isometrig yn fath o ymarfer corff sy’n effeithlon o ran amser (10 munud fesul sesiwn!) ac nad yw’n ddwys iawn y dangoswyd ei fod yn gostwng pwysedd gwaed. Mae pob sesiwn yn ymwneud â gwasgu dyfais â’ch llaw (sy’n cyfateb i gario bag siopa) am funud neu ddwy, gorffwys am funud neu ddwy, a gwneud yr un peth bedair gwaith. Yn yr astudiaeth hon, hoffem wybod faint o weithiau’r wythnos y mae angen i chi wneud y math hwn o ymarfer corff er mwyn cael y budd mwyaf ohono.  

Pwy sy’n gallu gwirfoddoli? 

Gallwch wirfoddoli am yr astudiaeth os ydych yn bodloni’r canlynol:  

  • Rydych rhwng 18 a 65 oed 
  • Mae eich pwysedd gwaed yn uwch na phwysedd gwaed systolig arferol (≥130 mmHg)  
  • Nid ydych yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd ar hyn o bryd 
  • Nid ydych yn cymryd mwy na dwy fath o feddyginiaeth i drin eich pwysedd gwaed ar hyn o bryd 

Beth fydd yn digwydd? 

  • Gofynnir i gyfranogwyr ddod i’r labordai Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn y bore fel y gallwn fesur eich pwysedd gwaed wrth orffwys a’ch iechyd fasgwlaidd.  
  • Byddwn hefyd yn gofyn i chi wisgo dyfais monitro pwysedd gwaed am y 24 awr nesaf wrth i chi ymgymryd â’ch gweithgareddau pob dydd arferol.  
  • Yna rhoddir cyfranogwyr ar hap yn un o dri grŵp astudio a fydd yn cwblhau naill ai dim (rheolydd), dwy neu bedair sesiwn o ymarfer corff gafael isometrig bob wythnos am chwe wythnos.  
  • Cynhelir y sesiwn ymarfer corff gyntaf yn y labordy, a chaiff yr holl sesiynau dilynol eu cwblhau yng nghartref/swyddfa’r cyfranogwr a’u goruchwylio dros Zoom.  
  • Dridiau ar ôl y sesiwn ymarfer corff olaf, byddwn yn gofyn i chi ddychwelyd i’r labordy i gael yr un mesuriadau pwysedd gwaed wrth orffwys, iechyd fasgwlaidd a phwysedd gwaed wrth symud ddydd a nos.  
  • Ar ôl cwblhau’r astudiaeth yma, byddwch yn derbyn taliad bach (taleb o £50 o’ch dewis) fel diolch i chi am eich amser 

Manylion cyswllt 

Os oes gennych ddiddordeb yn yr astudiaeth neu hoffech gael rhagor o wybodaeth amdani, a wnewch chi gysylltu â Mr Lewis Coward drwy e-bost 2350601@Swansea.ac.uk