Wrth i nesáu at ddiwedd y tymor, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich holl waith caled yn ystod y flwyddyn academaidd hon a rhoi gwybodaeth allweddol i chi ar amserau agor gwasanaethau a chymorth y brifysgol dros wyliau’r haf.

 Byddwn mewn cysylltiad cyn bo hir â gwybodaeth am gofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25, felly gwiriwch eich e-byst os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd!

Gwasanaethau arlwyo

Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau amrywiaeth yr opsiynau bwyta ar y campws, gan gynnwys clicio a chasglu brandiau’r stryd fawr fel Greggs a Subway, a Chuddfan Gymdeithasol Abertawe wych ar gampws y Bae.

Byddwn yn cyflwyno Cegin @ Harbwr ar Singleton yn fuan a fydd yn cynnwys gwasanaeth bwyd cyflymach a bwydlen estynedig gyda opsiynau archebu trwy giosg, codau bwrdd qr a’r ap. Gwyliwch y gofod hwn!

Gyda llai o bobl ar y campws dros fisoedd yr haf, bydd rhai o’n lleoliadau bwyta’n cau neu bydd oriau agor mwy cyfyngedig – ewch i’n tudalennau gwe arlwyo i gael y diweddaraf.

Cofiwch fod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy ddilyn Swansea Uni Food ar Twitter  neu Instagram, a sicrhewch eich bod chi wedi lawrlwytho ap Uni Food Hub.

Students sitting on the bus

Teithio ar y Bws

Oherwydd cyfnod gwyliau’r Brifysgol, ni fydd gwasanaethau 90A, N91, 92 ac N92 ar waith.

Bydd amserlenni y tu allan i’r tymor (10 Mehefin – 20 Medi) ar gyfer gwasanaethau 90 a 91 ar waith yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’r amserlenni ar gael i’w gweld yma.

Peidiwch ag anghofio lawrlwytho First App a dilyn @FirstCymru ar Twitter i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf am wasanaethau.

Mae Adventure Travel hefyd yn gwasanaethu ein campysau. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

MyUniHub

Bydd tîm MyUni ar gael drwy gydol yr haf fel arfer. Maen nhw ar lawr gwaelod Llyfrgell Parc Singleton, neu yn adeilad Tŵr y Cloc ar Gampws y Bae.

Siopau Undeb y Myfyrwyr

Mae amserau agor siopau Undeb y Myfyrwyr ar y campws, gan gynnwys JCs a Costcutter, ar gael ar wefan yr Undeb.

Gwasanaethau Llyfrgell

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am amserau agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe.

Byddwch yn gallu cysylltu â llyfrgellwyr pwnc drwy gydol yr haf drwy sgwrs ar-lein neu drwy apwyntiadau un i un. Mae’r manylion llawn yn Canllawiau’r Llyfrgell.

Students studying in a pod

Mannau i fyfyrwyr

Bydd ein mannau i fyfyrwyr yn parhau ar agor dros fisoedd yr haf. 

 Felly os ydych yn chwilio am fan tawel i astudio, eisiau cydweithio fel grŵp neu am ymlacio, mae digon o le i chi ar y campws.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein tudalennau mannau i fyfyrwyr am restr lawn o oriau agor ac argaeledd.

Cyfleusterau Chwaraeon

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am oriau agor cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol ar dudalen we Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Bod yn Actif

Os ydych yn chwilio am weithgarwch corfforol cymdeithasol, llawn hwyl a chyfeillgar, edrychwch ar ein hamserlen Bod yn ACTIF sydd ar waith tan ddiwedd mis Gorffennaf a dilynwch ni ar Instagram i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau.

Canolfan y Celfyddydau Taliesin

Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn parhau i gynnig rhaglen lawn drwy gydol yr haf, gan gynnwys dangos ffilmiau, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau theatr a gweithdai.

Fel rhan o ddathliadau 40 mlynedd Taliesin, cynhelir cyfres o ddiwrnodau llawn hwyl a digwyddiadau arbennig, gweler y wefan am yr holl ddigwyddiadau dros yr haf.

Timau’r Ddesg Gymorth Ystadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid

 Bydd desg gymorth Ystadau a’r desgiau gwasanaeth cwsmeriaid yn nerbynfa Tŷ Fulton ac ar lawr cyntaf adeilad Nanhyfer ar Gampws y Bae ar agor rhwng 08:30 a 16:30 drwy gydol y gwyliau.

Cynaliadwyedd

Peidiwch ag anghofio nodi eich gweithredoedd cynaliadwy a lles dros yr haf drwy SWell, ac os oes gennych gwestiynau am fod yn gynaliadwy ar y campws neu oddi arno, cysylltwch â’n tîm hynod gyfeillgar ac edrych ar Eventbrite am fanylion digwyddiadau glanhau’r traeth neu gyfleoedd gwirfoddoli cadwraeth sydd ar y gweill.

Security team helping students

SafeZone

Bydd ein Gwasanaethau Diogelwch yn parhau i weithredu ar y campws ddydd a nos yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych ar y campws dros y haf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r ap SafeZone ar eich ffôn.

Mae’r ap yn hawdd ei lawrlwytho ac mae’n rhoi mynediad ar unwaith i chi at dîm diogelwch y campws a’n tîm o ymatebwyr cyntaf cymwys a phrofiadol os oes gennych argyfwng personol neu os bydd angen cymorth cyntaf neu help yn gyffredinol ar rywun.

Pethau i’w gwneud yn Abertawe

Mae digon o bethau i’w gwneud yn Abertawe’r haf hwn, o ddigwyddiadau ar y campws i gerddoriaeth fyw ym Mharc Singleton. Cadwch lygad ar ein Cylchlythyr i Fyfyrwyr, tudalennau digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr, a gwefan Joio Bae Abertawe.

 Mwynhewch yr haf!