Os wyt ti’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol, paid â cholli dy gyfle!
Y dyddiad cau er mwyn cofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yw 18 Mehefin. Fel myfyriwr, mae dy lais yn bwysig nid yn unig yn y brifysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach. Gall dy bleidlais wneud gwahaniaeth felly dylet ti wirio a wyt ti’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf a gwneud yn siŵr dy fod ti wedi cofrestru!
cyfrif i lawr i'r etholiad
Day(s)
:
Hour(s)
:
Minute(s)
:
Second(s)
Sut rwyf yn cofrestru i bleidleisio?
Gelli di gofrestru drwy dy gyfeiriad cartref ac yn y brifysgol os wyt ti’n ystyried y ddau’n gartrefi parhaol. Mae’n bwysig gwybod y gelli di bleidleisio dim ond unwaith ym mhob etholiad.
Cynhelir yr etholiad ar 4 Gorffennaf, felly gwna’n siŵr dy fod yn dewis y cyfeiriad cywir i bleidleisio ohono!
A gaf i bleidleisio?
Cei di gofrestru i bleidleisio os wyt ti’n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, yn ddinesydd gwlad yn yr UE, neu fod gen ti ganiatâd i ddod i’r DU neu aros yma. Bydd rhai myfyrwyr rhyngwladol yn gallu pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.
Gelli di wirio dy gymhwysedd i bleidleisio ar y wefan hon.
Pam dylwn i bleidleisio?
Byddi di’n helpu i lywio polisïau yn y DU, ond mae etholiadau hefyd yn cael effaith ar bopeth o ffïoedd dysgu i bolisïau tai a gweithredu ar yr hinsawdd, felly drwy bleidleisio gelli di helpu i ddylanwadu ar faterion sy’n effeithio ar dy addysg.
Bydd angen iti ddod â phrawf adnabod gyda thi i bleidleisio
Am y tro cyntaf, bydd angen dod â phrawf adnabod â llun gyda thi i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol. Dyma rai enghreifftiau iti:
- Pasbort neu drwydded yrru’r DU (gan gynnwys trwydded dros dro)
- Cerdyn adnabod sy’n cynnwys hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
Am restr lawn o’r hyn a dderbynnir, gelli di glicio yma.
Dim prawf adnabod?
- Os wyt ti’n byw yn Lloegr, yr Alban neu Gymru, gelli di gyflwyno cais am brawf adnabod i bleidleisio am ddim nawr. Y dyddiad cau yw dydd Mercher 26 Mehefin am 5pm.
- Os wyt ti yng Ngogledd Iwerddon, gelli di gyflwyno cais am gerdyn adnabod etholiadol. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 21 Mehefin am 11.59pm.
Ble galla i bleidleisio?
Os nad wyt ti wedi cofrestru am bleidlais drwy’r post neu drwy ddirprwy, bydd angen i ti fynd i’th orsaf bleidleisio leol.
Dylai cyfeiriad dy orsaf bleidleisio gael ei argraffu ar dy gerdyn pleidleisio, a fydd yn cyrraedd yn y post cyn etholiad.
Os nad oes gen ti gerdyn pleidleisio, bydd angen i ti gysylltu â’th gyngor lleol. Noda dy gôd post ar y wefan hon a gelli di ddod o hyd i’th orsaf leol, neu bwy i gysylltu ag ef.
Felly yr hyn sy’n weddill i’w wneud yw bwrw dy bleidlais!