Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y Swyddfa Dderbyn yn prosesu canlyniadau arholiadau holl ymgeiswyr Prifysgol Abertawe ac yn derbyn miloedd o alwadau ffôn hefyd gan ymgeiswyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Clirio.

Eleni, rydym ni’n chwilio am help gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd â diddordeb mewn staffio’r Llinell Gymorth.

  • Bydd y Llinell Gymorth Clirio ar agor o ddydd Iau 15 Awst tan ddydd Gwener 23 Awst (gan gynnwys penwythnos 17-18 Awst).
  • Yn ogystal, rhaid i staff ddod i 1 sesiwn hyfforddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 29 Gorffennaf neu 5 Awst 

Sylwer: Bydd y cyfle hwn yn golygu gweithio ar y campws, felly ni fydd modd gweithio o bell.

Darperir mwy o wybodaeth yn agosach i’r digwyddiadau ond mae croeso i chi gysylltu gydag  ymholiadau – clearinghelplinestaff@wansea.ac.uk.

Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Iau 13 Mehefin 2023