Mae’n bleser gennym gyhoeddi gwelliannau sylweddol i’th brofiad amserlennu gyda ni. Mae dy addysg, dy brofiad, ac yn bwysicaf oll dy adborth wedi bod wrth wraidd y gwelliannau hyn ac wedi llywio cyfeiriad newydd dy brofiad amserlennu gwell.
Dywed wrthyf am y buddion!
- Rhyddhau dy amserlen yn gynharach – bydd dy amserlen nawr yn cael ei rhyddhau 10 wythnos yn gynharach (21 Mehefin) Sy’n dy alluogi i gynllunio dy fywyd y tu allan i’th astudiaethau’n fwy effeithiol.
- Llai o newidiadau – Er bydd mân ddiweddariadau i’th amserlen bob amser, bydd ein hymagwedd newydd yn cynnwys llawer llai o newidiadau o’u cymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Darperir mwy o wybodaeth gefndirol a mewnwelediad ar pam gall dy amserlen newid.
- Cyfathrebiadau gwell – Rydym yn deall y gall diffyg cyfathrebu achosi diffyg sicrwydd, dyna pam rydym yn ymrwymo i gynyddu ein cyfathrebiadau am amserlennu, yn enwedig wrth ryddhau dy amserlen a newidiadau i’th amserlen.
- Cynaliadwyedd – Addysg i’n hamgylchedd, drwy wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’n lleoedd addysgu ein nod yw lleihau defnydd/gwastraff ynni mewn mannau presennol a lleihau’r angen i adeiladu lleoedd newydd.
- Adborth rhagweithiol gan fyfyrwyr – Rydym yn gwrando’n rhagweithiol ac yn gweithredu ar dy adborth fel myfyriwr. Anogir i ti barhau i ddarparu adborth drwy dy ddarlithwyr ac arolygon myfyrwyr.
- Un system amserlennu – Un system amserlennu ar draws y brifysgol ar gyfer yr holl fyfyrwyr, sy’n sicrhau profiad cyson i fyfyriwyr ac yn galluogi rhannu gwybodaeth rhwng cymheiriaid.
Gobeithiwn bydd y gwelliannau hyn yn cyfoethogi dy addysg, dy brofiad a’th fywyd myfyriwr gyda ni. Ni fyddai’r gwelliannau hyn wedi bod yn bosib heb dy adborth ystyrlon, gall un cam bach i fyfyrwyr arwain at un naid enfawr i amserlennu. Rydym yn gwrando, yn deall ac yn gweithredu – mae’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Os ydych am barhau i weld gwelliannau’n cael eu gwneud, dywedwch wrthym trwy gwblhau Arolwg Mawr Abertawe
Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig yw hi i drefnu ymrwymiadau teuluol, cymdeithasol a gwaith y tu hwnt i’th astudiaethau. Gobeithiwn y bydd y gwelliannau hyn yn dy alluogi ac yn dy rymuso i wneud hyn.
Cysyllta â Thîm Gwybodaeth dy Gyfadran am ragor o wybodaeth, a bydd aelod o staff cyfeillgar yn hapus i’th helpu.