Wyddech chi mai dim ond 3% o bobl yng Nghymru sy’n rhoi gwaed? Mae angen 350 o roddion gwaed bob dydd ar Wasanaeth Gwaed Cymru i ddarparu gwaed ar gyfer ein hysbytai yng Nghymru.
Mae llawer o apwyntiadau ar gael o hyd ar gyfer ein sesiynau rhoi gwaed sydd ar ddod ym Mhrifysgol Abertawe, a gallwch chi greu effaith go iawn!
Gallwch roi gwaed yn un o’r lleoliadau canlynol ar un o’r dyddiadau canlynol:
- Campws Bae – 17 Mawrth
- Campws Singleton – 24 & 25 Mawrth
Gyda’n gilydd, gallwn achub bywydau.