Calan Mai yw’r dathliad Cymreig traddodiadol ar gyfer y diwrnod hwn (1 Mai) ac eleni rydym yn cynnal diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau i ddathlu! Rydych chi wedi gweithio mor galed eleni, ac rydych wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyfranogi gan gynnwys Arolwg Mawr Abertawe, felly rydym am ddiolch i chi drwy gynnal y digwyddiad hwn i’r holl fyfyrwyr ar draws y Brifysgol. Cynhelir y digwyddiad ar Gampws y Bae rhwng 1pm a 5pm, gyda llu o weithgareddau’n cael eu cynnal y tu allan i’r Neuadd Fawr ac yn ein hadeiladau peirianneg.
Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod yn brysur yn trefnu’r digwyddiad gydag Undeb y Myfyrwyr. Dyma rai o’r pethau y gallwch ddisgwyl eu gweld:
- Setiau DJ byw
- Stondinau bwyd yn gweini opsiynau fegan, llysieuol a dim glwten!
- Ffair hwyl
- Marchnad fach dros dro
- Twrnameintiau gemio
- Gemau Bwrdd
- Cystadlaethau
Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y dydd:
- 1pm – Pêl-droed a Phêl-fasged
- 2pm – Rownderi a phêl-foli
- 3pm – Pêl-foli, Pêl-fasged a Rygbi tag
- 4pm – Criced
Os hoffech gymryd rhan yn y gemau chwaraeon neu ymuno â thîm, gallwch gael mwy o wybodaeth a chofrestru yma.
Mae ffi fach o £2 os ydych am gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ond byddwch yn cael crys T am ddim i ychwanegu eich dyluniad eich hun! Gofynnir i chi gasglu eich crys T cyn y digwyddiad, naill ai yn Nerbynfa FSE (Y Bae) neu Dderbynfa Wallace (Singleton) ddydd Llun neu ddydd Mawrth, 29 neu 30 Ebrill (9am – 3pm). Byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn raffl Bod yn ACTIF.
Am bopeth arall, gallwch ddod draw ar y diwrnod a chymryd rhan yn yr hwyl!
Mae croeso i bawb, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron a rhowch wybod i’ch ffrindiau.