Calan Mai yw’r dathliad Cymreig traddodiadol ar gyfer y diwrnod hwn (1 Mai) ac eleni rydym yn cynnal diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau i ddathlu! Rydych chi wedi gweithio mor galed eleni, ac rydych wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyfranogi gan gynnwys Arolwg Mawr Abertawe, felly rydym am ddiolch i chi drwy gynnal y digwyddiad hwn i’r holl fyfyrwyr ar draws y Brifysgol. Cynhelir y digwyddiad ar Gampws y Bae rhwng 1pm a 5pm, gyda llu o weithgareddau’n cael eu cynnal y tu allan i’r Neuadd Fawr ac yn ein hadeiladau peirianneg.

Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod yn brysur yn trefnu’r digwyddiad gydag Undeb y Myfyrwyr. Dyma rai o’r pethau y gallwch ddisgwyl eu gweld:

  • Setiau DJ byw
  • Stondinau bwyd yn gweini opsiynau fegan, llysieuol a dim glwten!
  • Ffair hwyl
  • Marchnad fach dros dro
  • Twrnameintiau gemio
  • Gemau Bwrdd
  • Cystadlaethau

Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y dydd:

  • 1pm – Pêl-droed a Phêl-fasged
  • 2pm – Rownderi a phêl-foli
  • 3pm – Pêl-foli, Pêl-fasged a Rygbi tag
  • 4pm – Criced

Os hoffech gymryd rhan yn y gemau chwaraeon neu ymuno â thîm, gallwch gael mwy o wybodaeth a chofrestru yma.

Mae ffi fach o £2 os ydych am gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ond byddwch yn cael crys T am ddim i ychwanegu eich dyluniad eich hun!  Gofynnir i chi gasglu eich crys T cyn y digwyddiad, naill ai yn Nerbynfa FSE (Y Bae) neu Dderbynfa Wallace (Singleton) ddydd Llun neu ddydd Mawrth, 29 neu 30 Ebrill (9am – 3pm). Byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn raffl Bod yn ACTIF.

Am bopeth arall, gallwch ddod draw ar y diwrnod a chymryd rhan yn yr hwyl!

Mae croeso i bawb, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron a rhowch wybod i’ch ffrindiau.