Yn dilyn cyfathrebu blaenorol o ran gwelliannau i drafnidiaeth, rydym am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau i wella’r gwasanaethau bws i’r campws ac oddi yno.

Diolch am eich holl adborth o ran y gwasanaethau bws. Mae staff y Brifysgol, gan gynnwys ein Swyddog Teithio Cynaliadwy wedi bod yn gweithio’n agos gyda darparwyr lleol, Undeb y Myfyrwyr a Chynrychiolwyr Myfyrwyr i ddeall y problemau teithio ar y bws presennol. Rydym wedi casglu adborth o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys ein platfform llais myfyrwyr Unitu, e-byst, grwpiau defnyddwyr sy’n teithio ar fysiau a thrwy ein ffurflen ar-lein Dywed wrthym ni am Deithio.

O'ch adborth rydym yn deall mai dyma'r materion allweddol:

  • Gwasanaeth 91 – llai o gapasiti ac amlder gwasanaeth 91, dim gwasanaeth uniongyrchol ar ôl 7pm a dileu’r gwasanaeth gyda’r nos.
  • Y Gwasanaeth Parcio a Theithio – Diffyg capasiti ac amlder y gwasanaeth parcio a theithio.
  • Diffyg gwasanaethau’n cysylltu Llys y Goron a Heol San Helen â Champws y Bae.
  • Nid oes gwasanaeth bws hwyr y nos uniongyrchol o Gampws i Gampws sy’n cysylltu Campws y Bae â Champws Parc Singleton er mwyn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasau, chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda gweithredwyr lleol, gan gynnwys First Cymru i fynd i’r afael â hyn a gallwn gadarnhau:

  • Mae’r gwasanaeth gwennol Parcio a Theithio  bellach ar waith ac yn gweithio’n dda, diolch i bawb sydd wedi’i ddefnyddio hyd yn hyn. Gallwch weld yr amserlen a fydd ar waith tan 7 Mehefin 2024 yma.
  • O 4 tan 22 Mawrth, bydd gwasanaeth 91 yn rhedeg bob 30 munud. Mae’r amserlen ar gael yma. Dyma ateb dros dro felly ni fydd y manylion yn ymddangos ar wefan nac ap First Cymru.
  • Yn ystod gwyliau’r Pasg (o 22 Mawrth tan ddechrau tymor y gwanwyn), bydd y gwasanaethau 90, 91 a 92 yn parhau i redeg. Bydd y rhain yn wasanaethau bob awr yn ystod y gwyliau. Gallwch ddod o hyd i’r amserlenni ar-lein yma.

Fel a gyhoeddwyd eisoes, mesurau dros dro yw’r rhain i fynd i’r afael â materion yn y byrdymor, ac mae’n bleser gennyf ddweud wrthych ein bod wedi gallu negodi gwelliannau tymor hwy i’r gwasanaethau gyda First Cymru. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2024:

  • Bydd gwasanaeth 91 yn parhau i redeg bob 30 munud, gyda bysiau ychwanegol yn ystod y cyfnodau prysuraf, gan gynnwys darlithoedd sy’n dechrau am 9am.
  • Bydd gwasanaeth hwyr y nos N91 newydd yn dilyn yr un llwybr â gwasanaeth y dydd, yn rhedeg o 7pm bob 90 munud tan 3.44am, hefyd yn aros wrth lety myfyrwyr True a Roost.
  • Bydd gwasanaeth 90a bellach yn stopio ar Heol San Helen a Llys y Goron yn ystod yr oriau brig.
  • Bydd gwasanaeth hwyr y nos newydd, N92, yn rhedeg bob 30 munud o 7pm tan 3.54am, gan gysylltu Campws y Bae â Champws Parc Singleton drwy Heol San Helen, yr Orsaf Fysiau a Sainsbury’s.

Bydd gwasanaeth gwennol am ddim parcio a theithio Ffordd Fabian yn parhau i weithio yn ystod y tymor tan 7 Mehefin, ochr yn ochr â gwasanaeth 90a a fydd yn parhau i weithio fel arfer.

Rydym yn gobeithio y bydd y datblygiadau hyn yn gwella eich profiad cymudo ac yn eich helpu i deithio’n fwy hwylus o amgylch y ddinas.

Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i fonitro’r holl adborth a’i ddefnyddio i eirioli dros wasanaethau gwell ar eich rhan. Cofiwch adrodd am broblemau teithio drwy ein ffurflen ar-lein Dywed wrthym ni am Deithio. Gallwch hefyd ddweud eich dweud drwy grŵp defnyddwyr bysiau, ac mae staff, myfyrwyr, Llywydd Undeb y Myfyrwyr a Swyddogion amser llawn yn ei fynychu, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol a sefydliadau partner eraill. Cynhelir y grŵp nesaf ar 11 Ebrill. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.