Yn dilyn y cyhoeddiad y mis diwethaf ynghylch gwelliannau i wasanaethau bws, mae’n bleser gennym gadarnhau y caiff y trefniadau canlynol eu cyflwyno ar ôl y Pasg (o 7 Ebrill).

  • Gwasanaeth 90 – Bydd amserlen newydd sy’n cyd-fynd yn well â’r galw am wasanaethau i Gampws y Bae drwy ganol y ddinas, gyda bysiau ychwanegol yn ystod y cyfnodau prysuraf, gan gynnwys darlithoedd sy’n dechrau am 9am.
  • Gwasanaeth 90A – Bydd yr amserlen a’r llwybr newydd yn cynnig gwasanaeth i Gampws y Bae, gan gychwyn o Heol San Helen a Neuadd y Ddinas yn hytrach na Stryd Christina.
  • Gwasanaeth 91 – Bydd gwasanaeth 91 yn parhau i weithredu bob 30 munud, gyda bysiau ychwanegol yn ystod y cyfnodau prysuraf, gan gynnwys darlithoedd sy’n dechrau am 9am.
  • Gwasanaeth N91 NEWYDD – Bydd gwasanaeth hwyr y nos newydd, N91, yn dilyn yr un llwybr â gwasanaeth y dydd, yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 7pm bob 90 munud tan 3.44am, gan aros hefyd wrth lety myfyrwyr True a Roost.
  • Gwasanaeth 92 – Bydd amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth 92 o Gampws Parc Singleton drwy ganol y ddinas. A wnei di ymgyfarwyddo â’r amserlen newydd.
  • Gwasanaeth N92 NEWYDD – Bydd gwasanaeth hwyr y nos newydd, N92, yn gweithredu bob 30 munud o 7pm tan 3.54am, gan gysylltu Campws y Bae â Champws Parc Singleton drwy Heol San Helen, yr Orsaf Fysiau a Sainsbury’s.

Mae modd gweld yr holl welliannau ac amserlenni gwasanaethau y gellir eu lawrlwytho yma

Yn ystod gwyliau’r Pasg (o 22 Mawrth tan ddechrau tymor y gwanwyn), bydd gwasanaethau 90, 91 a 92 yn parhau i weithredu. Bydd y rhain yn wasanaethau bob awr yn ystod y gwyliau. Gellir dod o hyd i’r amserlenni ar-lein yma.

Mae’r gwasanaeth gwennol Parcio a Theithio bellach ar waith ac yn gweithio’n dda, diolch i bawb sydd wedi’i ddefnyddio hyd yn hyn. Gellir gweld yr amserlen a fydd ar waith tan 7 Mehefin 2024 yma.

Prisiau symlach a thapio i mewn ac allan

Mae First Bus hefyd wedi adolygu prisiau tocynnau ac yn cyflwyno prisiau symlach o 31 Mawrth, felly byddi di’n talu am y teithiau y mae eu hangen arnat ti’n unig.

Byddi di’n talu £3.50 y dydd ar y mwyaf i deithio heb gyfyngiadau ar rwydwaith UniBws a £6 i deithio drwy’r dydd i unrhyw le ar rwydwaith First Cymru. Bydd y cyfraddau hyn hyd yn oed yn rhatach os caiff tocynnau eu prynu drwy Fy Ngherdyn Teithio  ar ap First Bus .

Bydd First Bus hefyd yn cyflwyno ‘tapio i mewn ac allan i’w rwydwaith ehangach yng Nghymru cyn bo hir. Mae cyflwyno ‘tapio i mewn ac allan’ yn golygu y bydd prisiau tocynnau wedi’u capio ar bris tocyn diwrnod neu bris tocyn wythnos. Os byddi di’n tapio i mewn ac allan, ni fydd pris bws yn fwy na thocyn diwrnod neu docyn wythnos, ni waeth faint o deithiau rwyt ti’n eu gwneud!

Ar gyfer holl wasanaethau UniBws, y pris tapio i mewn ac allan fydd £3.50, neu £2.35 drwy Fy Ngherdyn Teithio. 

I brynu tocynnau ar gyfer pob gwasanaeth arall, rydyn ni’n dal i argymell prynu tocyn drwy ap First Bus.

 Mae manylion llawn ynghylch sut mae tapio i mewn ac allan yn gweithio ar gael drwy fynd i dudalennau First Bus yma.