Mae’r Brifysgol am dy helpu di i astudio.

Rwyt ti’n cael mynediad at ddysgu’n bennaf drwy fynd i’th ddarlithoedd a’th seminarau ar y campws a dyma’r ffordd orau o sicrhau dy fod ti’n manteisio i’r eithaf ar dy astudiaethau a’th brofiad yn y Brifysgol.

Mae angen i fyfyrwyr sganio eu cardiau ar y darllenwyr sydd wedi’u gosod yn yr holl fannau addysgu i gadarnhau eu presenoldeb. I ddeiliaid fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr, mae hyn yn hynod bwysig oherwydd bod y Swyddfa Gartref (UKVI) yn disgwyl i’r myfyrwyr hyn astudio wyneb yn wyneb.

Ar ddechrau’r tymor, rhoddwyd gwybod am fyfyrwyr a oedd yn sganio cardiau ar gyfer sesiynau dysgu a drefnwyd ar ran myfyrwyr eraill neu a oedd yn sganio eu cardiau heb fod yn bresennol ar gyfer y sesiwn ddysgu a drefnwyd. Sylwer bod hyn yn groes i’r Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir ac ni ddylai myfyrwyr roi eu cardiau i fyfyrwyr eraill i’w sganio ar eu rhan hwy.

Os amheuir bod y system yn cael ei chamddefnyddio, bydd y Gyfadran/yr Ysgol a/neu’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn ymchwilio i hyn a gall myfyrwyr fod yn destun Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol. Gallai hyn arwain at ofyn i’r myfyriwr dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Lle bydd myfyriwr yn cofrestru ar gyfer cwrs sy’n arwain yn uniongyrchol (neu’n rhannol) at gymhwyster proffesiynol neu’r hawl i ymarfer proffesiwn neu alwedigaeth penodol, gall hefyd fod yn destun y gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer.

Bydd staff yn cynnal gwiriadau manwl mewn sesiynau addysgu wyneb yn wyneb yn ystod gweddill wythnosau addysgu ar ôl y Pasg i atgoffa myfyrwyr i sganio eu cerdyn wrth fynychu mannau addysgu. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod darllenwyr cardiau mewn lleoliadau ar draws y campws yn gweithio’n dda.

Cer i’n tudalennau gwe MyUni i gael rhagor o wybodaeth am sut a pham rydym yn monitro dy bresenoldeb.