Defnyddiwch y ddolen isod a darllenwch y cyfarwyddiadau i gofrestru eich presenoldeb.

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Mewnrwyd.
  2. Cliciwch ar y tab Graddio yn y blwch Digwyddiadau/Nodiadau Atgoffa o dan eich llun myfyriwr.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau a chwblhau’r broses gofrestru – mae hi mor syml â hynny! Ar ôl i chi wneud hyn, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eich bod chi wedi cofrestru.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich presenoldeb yw dydd Gwener 10 Mai 2024.

Sylwer y bydd modd archebu tocynnau i westeion, gynau a ffotograffiaeth ar ddyddiad diweddarach. Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau llawn (dros e-bost) ar yr adeg briodol.

Os cewch broblemau TG pan fyddwch yn cofrestru eich presenoldeb, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG. Sylwer bod y Ddesg Wasanaeth TG yn derbyn e-byst a anfonir gan eich cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol yn unig.

Sylwer, er eich bod wedi cael gwahoddiad amodol i fynychu’r seremonïau sydd ar ddod, nid yw cofrestru eich presenoldeb yn golygu eich bod wedi cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y seremonïau sydd ar ddod, rhaid i chi gwblhau eich rhaglen astudio yn llwyddiannus, rhaid i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gadarnhau eich marciau, a rhaid i chi fod heb ddyledion ffioedd dysgu sy’n ddyledus i’r Brifysgol.

Os na fyddwch yn bodloni’r maen prawf hwn, ni fyddwch yn gallu ymuno â’ch graddio a chewch eich gwahodd i’r gyfres nesaf o seremonïau sydd ar gael ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen.  Cadwch hyn mewn cof wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, er enghraifft os ydych yn archebu teithiau hedfan a gwestai.

Eich Rhestr Wirio ar gyfer Graddio

Cam 1:

Cofrestrwch eich presenoldeb. Rydych chi newydd gwblhau’r cam hwn, gobeithio!

Cam 2:

Archebwch eich gynau a ffotograffiaeth. Byddwn yn eich e-bostio pan fydd modd archebu gynau a ffotograffiaeth.

Cam 3:

Gwiriwch eich cymhwysedd. Caiff eich cymhwysedd ei gadarnhau a’i gyfleu i chi ar ôl cyfarfodydd Byrddau Dyfarnu’r Brifysgol yn hwyr ym mis Mehefin.

Cam 4:

Archebwch eich tocynnau i westeion. Caiff pob myfyriwr sy’n graddio ac sydd wedi cofrestru ei bresenoldeb 2 docyn i westeion am ddim! Bydd modd prynu tocynnau i westeion ychwanegol hefyd. Bydd modd archebu tocynnau i westeion yn gynnar ym mis Gorffennaf felly byddwn yn eich e-bostio pan fydd modd ichi wneud hyn!

Cam 5:

Rydych chi ar eich ffordd! Gwiriwch eich rhestr wirio. Os ydych chi wedi cyrraedd y pwynt hwn rydych chi ar eich ffordd i Raddio. Rydym yn argymell ychydig o wiriadau terfynol o’n cynllun 5 cam.

Myfyrwyr presennol - peidiwch â cholli’r cyfle i ennill llogi gŵn graddio a phecyn ffotograffiaeth!

Yn syml, cwblhewch ein harolwg gan rannu eich profiad prifysgol, a byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn ein raffl ar gyfer seremonïau graddio Haf 24. Bydd dau gyfranogwr lwcus yn ennill llogi gŵn A phecyn ffotograffiaeth swyddogol am ddim yn y lleoliad!

Peidiwch â phoeni os ydych chi eisoes wedi cwblhau’r arolwg, byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl. Y dyddiad cau i gael eich cynnwys yn y raffl yw canol dydd ar 30 Ebrill a byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus drwy eu e-byst myfyrwyr.

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Graddio.

Y Tîm Graddio,
Gwasanaethau Addysg