Bob blwyddyn, mae Discovery yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi tîm bach o Gydlynwyr Prosiect ymrwymedig a bywiog i arwain grwpiau o wirfoddolwyr yn ogystal â threfnu a chyflwyno gweithgareddau cymunedol drwy ein Rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol.

Mae’r cynllun yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr nid yn unig ddatblygu sgiliau ond cymryd y cam cyntaf tuag at reoli prosiectau ac arwain tîm mewn rolau arwain cymunedol ymarferol.

Leadership opportunities:

  • Cydlynydd Prosiect The Vetch: Arwain tîm i gefnogi aelodau o’r gymuned leol wrth gynnal eu lleiniau tyfu llysiau a gardd gymunedol.
  • Cydlynydd Prosiect Gwirfoddoli: Arwain tîm i ddarparu amrwyiaeth o gyfleodd gwirfoddoli ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. 
  • Cydlynydd Prosiect Star: Arwain tîm a chefnogi sesiynau galw heibio lleol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Abertawe.
  • Cydlynydd Prosiect Cyfryngau Digidol: Arwain tîm i greu cynnwys cyfryngau digidol ar draws lwyfannau darganfod.