Bydd llawer ohonoch chi’n sefyll arholiadau ac asesiadau ym mis Mai a hoffem roi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i chi i’ch helpu i baratoi.
Lleoliadau Arholiadau
Ddim yn siŵr ble mae’ch arholiad yn cael ei gynnal? Mae mapiau’r campws yn yr ap FyAbertawe yn cynnig cynllun rhyngweithiol a manwl o holl gampysau’r Brifysgol. Gan gynnwys lleoliadau adeiladau, mannau o ddiddordeb, lleoliadau arholiadau, cyfeiriadau a hidlwr categorïau i fireinio’r hyn rydych yn chwilio amdano!
Boed yn fannau cymdeithasol, yn fannau astudio neu’n lleoliadau i gael gwybodaeth a chymorth.
Bysiau arholiad a theithio
Am wybodaeth am deithio i’ch arholiadau, gan gynnwys bysus arholiadau, cliciwch yma.
Ein blaenoriaeth gyntaf oll yw sicrhau eich bod yn cyrraedd eich arholiadau ar amser. oherwydd disgwylir lefelau uwch o alw a chyfnodau prysur, mae bysiau ychwanegol wedi cael eu trefnu.
Cymorth a chyngor
Gall llywio’ch ffordd drwy’r cyfnod asesu achosi straen felly mae gennym amrywiaeth o adnoddau ym Mhrifysgol Abertawe i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
Pecyn cymorth ar-lein yw Hapus sydd â gwybodaeth ac awgrymiadau ynghylch mynd i’r afael â’r duedd i ohirio pethau, rheoli straen ac ansicrwydd a datblygu gwydnwch. Dyma enghraifft o’r math o gyngor y gelli di ddisgwyl ei weld:
Dechrau arni yw rhan anoddaf y dasg. Rhaid i ti addo i ti dy hun y byddi di’n gwneud dy orau glas wrth weithio ar dasg am 10 munud yn unig. Dewisa wobr i roi iti dy hun dim ond os byddi di’n cyflawni’r dasg rwyt ti wedi’i gosod i ti dy hun.
Mae’r pecyn cymorth am ddim i fyfyrwyr ac mae’n adnodd hanfodol ar gyfer tymor yr arholiadau. Gelli di gael mynediad at y pecyn cymorth ar Canvas yma.
Hefyd, bydd gan Undeb y Myfyrwyr Ganolfan Cyngor a Chymorth annibynnol, lle bydd y tîm ar gael i fyfyrwyr alw heibio am gyngor yn ystod y cyfnod asesu.
Amgylchiadau Esgusodol
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr a allai arwain at anallu i baratoi am asesiadau neu ymgymryd â nhw. Os ydych yn cyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno fydd pum niwrnod gwaith i ddyddiad cau’r asesiad/arholiad NEU’r dyddiad cau a gyhoeddir gan eich Cyfadran/Ysgol yn unol â Pholisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol.
Mannau astudio i fyfyrwyr
P’un a ydych chi’n chwilio am rywle tawel i astudio, eisiau cydweithio fel grŵp neu am rywle i ymlacio a gorffwys yn unig, mae gennym ddigon o leoedd i chi ar y campws.
I bori ein mannau i fyfyrwyr, cliciwch yma.
Cymorth Astudio
Mae Cymorth Astudio’n ymgyrch a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol yn ystod y cyfnod asesu. Ei nod yw eich helpu i gael saib i ymlacio a lliniaru’r straen ar yr adeg brysur hon.
Bydd te, coffi a lluniaeth sy’n addas at ddibenion adolygu ar gael am ddim, ynghyd â sesiynau gyda’r ci therapi, dosbarthiadau ioga am ddim, a digwyddiadau crefft ymysg gweithgareddau eraill! Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ym mis Mai.
Gelli di gael cymorth proffesiynol gydag astudio!
Gall y cyfnod asesu fod yn heriol, ond gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ddarparu awgrymiadau ac adnoddau astudio defnyddiol i ti sy’n canolbwyntio ar fireinio dy sgiliau, fel dy fod ti’n dod yn ddysgwr mwy effeithiol. Mae amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu, megis Sgiliau Astudio Hanfodol ac Ysgrifennu Academaidd.
Wyt ti am gael gwybodaeth fwy cryno? Cymera gipolwg ar ein blog awgrymiadau astudio!
Mae llawer o bynciau i ti ddewis ohonynt, gan gynnwys rheoli amser, camgymeriadau cyffredin a ‘beth i’w wneud gyda’r holl nodiadau hynny’.
Gwybodaeth Gyffredinol am Arholiadau
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ymholiadau, gweler tudalennau’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn ystod eich arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.
Hoffem achub ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau a’ch arholiadau!